Mae’r Ganolfan Datblygu Gweithlu ac Achrededig yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi ar gyfer yr holl staff gofal plant yng Nghaerdydd.

Dyma’r tîm i gysylltu ag ef os ……… ..

Cynllunydd Hyfforddiant Datblygu’r Gweithlu Caerdydd Mai 2024 – Awst 2024

Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk

Byddem yn cynghori’n gryf os ydych eisiau gwneud archebion lluosog eich bod yn anfon e-bost atom gan ddefnyddio’r ffurflen archebu a ddarperir. Dylech gynnwys enwau staff, cyfeiriadau e-bost a’r cyrsiau yr hoffech roi staff arnynt fel y gallwn wirio a oes gennym argaeledd ac ychwanegu defnyddwyr at ein taflenni archebu. Nodwch hefyd rif ffôn. Bydd archebion yn cael eu prosesu yn y drefn y maent yn cyrraedd a bydd e-bost i gadarnhau argaeledd yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd.

I ddod o hyd i gopi ar-lein o’n holl gyrsiau ac i ddarllen copi llawn o’n telerau ac amodau ewch i
https://cardifffamilies.co.uk/cy/telerau-ac-amodau-datblygur-gweithlu-gofal-plant/

Cyfreithiol a Rheoliadol

Crynodeb

Mae’r cymhwyster cymorth cyntaf rheoledig hwn yn benodol i fabanod o dan 1 oed, a phlant o 1 oed hyd at ddechrau’r glasoed. Mae’n bodloni gofynion y fframwaith statudol ar gyfer Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar (CSBC) fel y’i cyhoeddwyd gan Gyfnod Sylfaen yr Adran Addysg a Sgiliau yn ymwneud â gofal plant y Blynyddoedd Cynnar. Y gofyniad lleiaf yw o leiaf 1:10 (cymhareb oedolyn hyfforddedig: plant) sy’n meddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Lawn 12 awr gyfredol.

Cyrsiau Dydd Sadwrn/Sul

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 11 a Dydd Sul 12 Mai 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 18 a Dydd Sul 19 Mai 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sul 2 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 8 a Dydd Sul 9 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 15 a Dydd Sul 16 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 22 a dydd Sul 23 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 29 a Dydd Sul 30 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 6 a Dydd Sul 7 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 13 a Dydd Sul 14 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 20 a Dydd Sul 21 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 27 a Dydd Sul 28 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 3 a Dydd Sul 4 Awst 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 10 a Dydd Sul 11 Awst 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0

Crynodeb

• Rhaid i’r holl staff eraill (gan gynnwys gwirfoddolwyr neu hyfforddeion rheolaidd) sydd wedi’u cynnwys yn y cymarebau staff oedolion:plant feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys 6 awr gyfredol a dilys.
• Dylai dechreuwyr gyflawni tystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys 6 awr o fewn tri mis i ddechrau gweithio.

Cyrsiau Dydd Sadwrn

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 4 Mai 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
Cymorth Cyntaf Pediatrig Dydd Sadwrn 25 Mai 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0

Crynodeb

Mae’r cymhwyster rheoledig hwn wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol hanfodol i weithio yn y diwydiant bwyd.
Mae’n cydymffurfio’n llawn â safonau diwydiant a rheoleiddio. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd o’r farn bod y pynciau a drafodir yn bwysig er mwyn cynnal arferion da wrth gynhyrchu a thrin bwyd diogel.
Bydd y cwrs yn addas i ystod amrywiol o ddysgwyr gan gynnwys oedolion, ysgolion, grwpiau cymunedol a busnesau ac ati sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu’n bwriadu gweithio ynddo, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â storio, paratoi, coginio a thrin bwyd.
Erbyn diwedd y cwrs bydd gan y cynrychiolwyr ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd sicrhau hylendid bwyd priodol yn y gweithle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 25 Mai 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0
Diogelwch Bwyd Dydd Sadwrn 3 Awst 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0

Crynodeb

Mae’r cwrs achrededig hwn ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf brys sydd wedi’u henwebu, mewn gweithleoedd sydd â risgiau iechyd a diogelwch is. Mae’r hyfforddiant yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau ar gyfer delio gydag argyfyngau cymorth cyntaf sy’n effeithio ar oedolion yn y gweithle e.e. eich cydweithwyr gwaith neu’ch rhieni ar y safle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Dydd Sadwrn 4 Mai 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0
Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0

Crynodeb

Datblygwyd y cymhwyster L2 rheoledig hwn i ddarparu cyflwyniad i hanfodion Iechyd a Diogelwch yn y gweithle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Iechyd a Diogelwch i Ddarparwyr Gofal Plant Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0

Crynodeb

Datblygwyd y cymhwyster L2 rheoledig hwn i alluogi ymgeiswyr i fodloni’r rheoliadau ar gyfer marsialiaid tân mewn gweithle.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Warden Tân Dydd Sadwrn 1 Mehefin 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0
Warden Tân Dydd Sadwrn 20 Gorffennaf 2024 9.00am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0

Mae cyrsiau Ymwybyddiaeth Diogelu Grŵp A (Lefel 1) yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddiogelu plant. Mae’n disgrifio’r mathau cyffredin o gamdriniaeth, sut i’w hadnabod, a sut i ymateb i bryderon. Mae hefyd yn esbonio sut i adrodd am bryderon yn gywir. Dylai’r hyfforddiant gorfodol hwn fod yn rhan o sesiwn sefydlu gweithwyr ar gyfer yr holl staff.
Gellir cwblhau’r hyfforddiant hwn ar-lein yn https://socialcare.wales/learning-modules/group-a-safeguarding

Crynodeb

Sylwer: Disgwylir i’r holl gyfranogwyr eisoes wybod popeth yng Ngrŵp A Ar gyfer cyrsiau ar-lein; Bydd disgwyl i chi gael eich camera ymlaen bob amser a gallu defnyddio’ch meicroffon – os nad yw hyn yn bosibl, ni fyddwch yn gallu mynychu’r cwrs.

Nod: Nod y cwrs lefel ganolradd undydd hwn yw sicrhau bod cyfranogwyr yn gwybod beth i chwilio amdano a bod ganddynt wybodaeth glir am y broses adrodd a’u cyfrifoldebau eu hunain. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar eich rôl a’ch cyfrifoldebau o ran diogelu, adnabod risg, gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, a chanllawiau ymarferol ar gwblhau Adroddiad / Atgyfeiriad Diogelu Plant.
Amcanion Dysgu Allweddol:

• Rwy’n rhan allweddol o’r broses ddiogelu
• Rwy’n gwybod pryd, sut a phwy i adrodd iddynt
• Byddaf yn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.

I gael rhestr lawn o’r holl ddeilliannau dysgu ewch i: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol/safonau-diogelu-grwp-b

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Grŵp B Diogelu Dydd Iau 9 a Dydd Iau 16 Mai 2024 6.00pm – 9.00pm Hyfforddiant ar-lein £0
Grŵp B Diogelu Dydd Sadwrn 18 Mai 2024 9.30am – 4.30pm Llwybrau Newydd £0
 Grŵp B Diogelu Dydd Mawrth 4 a Dydd Mawrth 11 Mehefin 2024 6.00pm – 9.00pm Hyfforddiant ar-lein £0
 Grŵp B Diogelu Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2024 9.30am – 4.30pm Llwybrau Newydd £0
 Grŵp B Diogelu Dydd Mawrth 9 a Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2024 6.00pm – 9.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Sylwer: Disgwylir i’r holl gyfranogwyr wybod popeth yng Ngrwpiau A a B eisoes.
Nod: Nod y cwrs lefel uwch 2 ddiwrnod hwn yw sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu gwneud penderfyniadau a chynghori eraill ar gadw plant yn ddiogel, a rhoi prosesau amddiffyn ar waith, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd Strategaeth, Ymholiadau A47, a Chynadleddau Amddiffyn Plant.
Amcanion Dysgu Allweddol:
• Rwy’n deall bod rhoi llais a rheolaeth i bobl yn rhan hanfodol o wneud penderfyniadau – ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
• Rwy’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu
• Mae gennyf y gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur.

I gael rhestr lawn o’r holl ddeilliannau dysgu ewch i: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol/safonau-diogelu-grwp-c

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
 Grŵp C Diogelu Dydd Mercher 26 Mehefin a Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2024 9.30am – 4.30pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Trefynwy £0
 Grŵp C Diogelu Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf a Dydd Sadwrn 13 Gorffennaf 2024 9.30am – 4.30pm Llwybrau Newydd £0

Datblygiad Proffesiynol Parhaus

Crynodeb

Bydd hon yn un archeb gyda 4 sesiwn gan fod disgwyl i’r rhai sy’n cymryd rhan fynychu’r pedair.
Fe’ch gwahoddir i fynychu pedair sesiwn hyfforddiant ar-lein AM DDIM drwy Microsoft Teams er mwyn gwella sgiliau ymarferwyr mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar. Bydd y ffocws yn cynnwys; deall egwyddorion ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cynhwysiant i bawb, cydweithio a’r broses anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar (genedigaeth-5 oed) sydd wedi ei nodi yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Chod ADY Cymru.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Gweithredu Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y Blynyddoedd Cynnar – Deddf a Chod Dydd Sadwrn 20 Ebrill 2024
Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024
Dydd Sadwrn 22 Mehefin 2024
Dydd Sadwrn 6 Gorffennaf 2024
9.30am – 12.00pm Hyfforddiant ar-lein AM DDIM

Crynodeb

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r theori y dylai pob aelod o staff wybod, wrth symud a chodi a chario plant bach, y dylent gadw eu hunain a’r plentyn yn ddiogel. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys strategaethau a gweithgareddau ymarferol. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor ar gyfer plant unigol. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan.
SYLWER: Mae hwn ar gyfer plant NA allant symud eu hunain oherwydd anabledd corfforol. NID codi a chario cadarnhaol lle mae’r plentyn yn dewis peidio â symud mohono.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Codi a Chario Plant Bach Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024 9.30am – 12.00pm ECCC £0

Crynodeb

Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o sut y gallwn hyrwyddo cynhwysiant effeithiol ar gyfer plant y Blynyddoedd Cynnar sydd ag anghenion corfforol, meddygol a dysgu cymhleth. Bydd hyn yn cynnwys y Deddfau sy’n sail i gynhwysiant, cymorth sydd ar gael gan y Tîm Anabledd, cyflwyniad i ‘Llwybrau ar gyfer Dysgu’, syniadau cwricwlwm i gwrdd â’r pedwar maes angen a chysylltiadau â hyfforddiant arall.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cefnogi’r Plentyn Cymhleth Dydd Sadwrn 13 Ebrill 2024 9.30am – 12.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Nod y cwrs hwn yw edrych yn fanylach ar bwysigrwydd pontio effeithiol ac ystyriol i blant y Blynyddoedd Cynnar. Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o beth yw pontio a’r gwahanol fathau, egwyddorion pontio effeithiol, rôl Tîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar wrth gefnogi pontio i blant ag ADY a nodi sut y gall rhanddeiliaid gefnogi pontio effeithiol.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cynllunio Pontio ar gyfer Plant y Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 27 Ebrill 2024 9.30am – 12.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Bydd y cyfranogwr yn cael dealltwriaeth o sut y bydd dogfen ymgynghori llwybr datblygiadol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi plant ag ADY. Byddwch yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o effaith y Cwricwlwm Newydd ar y Blynyddoedd Cynnar, Llwybrau Datblygu – y cyfnod dysgu sy’n arwain at gam cynnydd 1, Addysgeg effeithiol sy’n canolbwyntio ar y plentyn, Amgylcheddau Galluogi, Galluogi Oedolion a Galluogi Dysgwyr a throsolwg o’r deunyddiau ‘Llwybrau ar gyfer Dysgu’.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Y Cwricwlwm Newydd yn y Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 4 Mai 2024 9.30am – 12.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Bydd hyn yn canolbwyntio ar anghenion synhwyraidd ein plant a sut y gallwn ni fel ymarferwyr a lleoliadau BC ddiwallu’r anghenion hynny. Bydd y cyfranogwyr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o: Ein synhwyrau, sensitifrwydd a dewisiadau synhwyraidd, sut i hyrwyddo’r systemau synhwyraidd, chwarae blêr a synhwyraidd a chamau a manteision chwarae blêr a synhwyraidd.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Diwallu Anghenion Synhwyraidd Plant yn y Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 11 Mai 2024 9.30am – 12.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0

Crynodeb

Rhaglen gyfathrebu weledol yw Makaton sy’n cyfuno arwyddion a symbolau. Bydd cyflawni hyfforddiant Makaton yn galluogi ymarferwyr i gefnogi iaith a chyfathrebu plant yn y lleoliad Blynyddoedd Cynnar drwy eu darpariaeth arferol.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Sesiwn Makaton Y Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 11 Mai 2024 9.30am – 12.00pm ECCC £0

Crynodeb

Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth am y gofynion ar leoliad i gefnogi plant ag anghenion gofal iechyd. Bydd yn rhoi cyngor ar yr hyn a ddylai fod ar waith gan gynnwys cynlluniau gofal iechyd a gweinyddu meddyginiaeth yn ddiogel mewn lleoliad Blynyddoedd Cynnar. Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o: ddeddfwriaeth berthnasol sy’n ymwneud â gweinyddu meddyginiaeth a gweithdrefnau awdurdodau lleol, yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud mewn perthynas â gweithdrefnau a systemau meddygol y mae angen iddynt fod ar waith er mwyn sicrhau bod meddyginiaethau’n cael eu trin yn ddiogel yn amgylchedd y lleoliad.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Diwallu Anghenion Gofal Iechyd yn y Lleoliad Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024 9.30am – 12.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i ddod yn fwy ymwybodol o’r gwahanol fathau o gynlluniau chwarae, sut i ddatblygu mwy o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rôl yr oedolyn sy’n galluogi i gydnabod a chefnogi chwarae sgematig, sut i allu adnabod y math o chwarae sgematig y gall plant ei ddefnyddio a gweithgareddau i gefnogi a gwella eu chwarae.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Chwarae Sgematig mewn Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar Dydd Sadwrn 29 Mehefin 2024 9.30am – 12.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Mae cymorth ar gael i leoliadau gofal plant wella sgiliau Cymraeg eu gweithlu drwy’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys pum llinyn, ac mae un ohonynt yn ymwneud yn benodol â sector y Blynyddoedd Cynnar: ‘Cymraeg Cynnar’.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 323 4324 neu e-bostiwch office@learnwelsh.cymru neu ewch i http://learnwelsh.cymru/cymraeg-gwaith-work-welsh

Crynodeb

Bydd hyn yn dangos sut i gofrestru eich diddordeb ar y porth, eich hysbysu am adnoddau Cwlwm am ddim i gefnogi eich dysgu a’ch helpu i ymgorffori’r Gymraeg ar waith bob dydd. Nod y cwrs yw rhoi:
• Tua 20 awr o ddysgu annibynnol
• Cefnogaeth i ddysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda phlant mewn lleoliadau;
• Unedau i ddysgu ynganu’r wyddor, lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifau;
• Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiaid.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cyflwyniad Camau i Gymorth â’r Gymraeg a hyfforddiant ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024 6.30pm – 7.30pm Hyfforddiant ar-lein AM DDIM

Crynodeb

Bydd y sesiwn yn cyflwyno syniadau i’r cyfranogwyr ynghylch defnyddio dulliau ymlyniad a pherthnasoedd, yn ogystal â strategaethau rheoli ymddygiad mwy traddodiadol, fel ffordd o
hybu ymddygiadau cadarnhaol.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Cysylltu cyn Cywiro Dydd Sadwrn 11 Mai 2024 9.15am – 1.15pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Mae’r cyfranogwyr yn dysgu:
• Gwahanol sgiliau lleferydd ac iaith
• Adolygu normau datblygiad o enedigaeth i 5 oed
• Theori caffael iaith
• Sgiliau sylfaen ar gyfer datblygu lleferydd ac iaith
• Pryd i boeni am ddatblygiad plentyn
• Rôl yr ymarferydd wrth ddatblygu sgiliau rhyngweithio ac iaith plant, gan gynnwys strategaethau penodol i’w gweithredu a Chynlluniau Gweithredu
• Sut i ymgysylltu â plant sy’n anodd eu cyrraedd
• Rôl y Gweithwyr Blynyddoedd Cynnar Proffesiynol a’r UDA a phwysigrwydd cysylltu o safbwynt plant ag angen sydd wedi ei nodi

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Dysgu Siarad – Siarad er mwyn Dysgu’ Dydd Sadwrn 18 Mai 2024 9.15am – 4.00pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu £0

Crynodeb

Gweithdai i Godi Ymwybyddiaeth o ‘Prevent’ yw WRAP. Mae Prevent yn rhan o strategaeth wrth-derfysgaeth Llywodraeth y DU, sy’n atal pobl rhag dod yn rhan o derfysgaeth.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
WRAP (Gweithdy i Godi Ymwybyddiaeth o Prevent) Dydd Llun 24 Mehefin 2024 6.30pm – 8.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Crynodeb

Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ym menter UNICEF UK, Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant. Rydyn ni eisiau sicrhau bod Caerdydd yn ddinas sydd â phlant a phobl ifanc wrth ei chalon, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu gan bawb ac yn lle gwych i gael eich magu.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol deall a bod yn wybodus am Hawliau Plant mewn unrhyw rôl lle yr effeithir ar blant yn uniongyrchol a/neu’n anuniongyrchol.
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant cyflwyniad i hawliau plant hwn, bydd cyfranogwyr:
• Yn meddu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth dda am hawliau dynol plant yn fyd-eang ac o fewn cyd-destun Cymru
• Yn deall ystyr ac egwyddorion meddylfryd sy’n seiliedig ar hawliau plant
• Wedi archwilio sut mae cymhwyso dull sy’n seiliedig ar hawliau plant yn ymarferol yn eich gwaith gyda/i blant a phobl ifanc

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Hyfforddiant ar Hawliau Plant Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024 6.00pm – 8.30pm Hyfforddiant ar-lein AM DDIM

Crynodeb

Mae Plant Egnïol yn ymwneud â datblygiad symudiad, parodrwydd i ddysgu a chwarae – mae symud yn rhan annatod o fywyd o eiliad cenhedlu hyd at farwolaeth, a bydd profiad plentyn o symud yn chwarae rhan ganolog wrth lunio eu personoliaeth, eu teimladau a’u cyflawniadau. Mae’r cwrs tair awr hwn wedi’i anelu at blant gan ddilyn ymlaen o’r 3 blynedd cyntaf, gan gefnogi plant a rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r agweddau i ymarferwyr gefnogi plant i fod yn ‘gwbl gorfforol’ (Greenland, 2009) yn y Cwricwlwm i Gymru.

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Plant Egnïol Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024 9.30am – 1.00pm Hyb Trelái a Chaerau £0

Crynodeb

Nod y ddwy sesiwn hyfforddi 90 munud hyn yw cefnogi arweinwyr a rheolwyr i gefnogi timau staff yn eu taith wrth-hiliol i greu dull gwrth-hiliol o arfer gorau yn y Blynyddoedd Cynnar.
Ar ôl cwblhau’r ddwy weminar bydd arweinwyr / rheolwyr yn cael yr offer a’r adnoddau i:
• Ddeall effaith gadarnhaol ymarfer gwrth-hiliol i bob plentyn yn y Blynyddoedd Cynnar
• Dechrau deall pam mae angen ymgorffori ymarfer gwrth-hiliol yn y blynyddoedd cynnar
• Cychwyn ar y daith tuag at ddod yn lleoliadau ac yn ymarferwyr gwrth-hiliol

Cwrs Dyddiad Amser Lleoliad Cost
Ymarfer gwrth-hiliol Dydd Iau 13 a Dydd Iau 20 Mehefin 2024 6.30pm – 8.00pm Hyfforddiant ar-lein £0

Adnoddau Gofal Cymdeithasol Cymru

Am adnoddau a gwybodaeth sy’n ymwneud â gofal plant ewch i wefan Gofal Cymdeithasol Cymru:
https://socialcare.wales/careers/a-career-in-social-care-or-early-years-and-childcare