Meini Prawf Cymhwysedd

Mae’r rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i fodloni’r gofynion ar gyfer y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fe’i cynlluniwyd hefyd i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Llunir y rhaglen ar sail canlyniadau Dadansoddiad Anghenion Hyfforddiant blynyddol (DAH). Ariennir y rhaglen hon gan Dechrau’n DegCaerdydd. Manylir isod ar yr amodau ar gyfer mynychu unrhyw un o’r cyrsiau yn y rhaglen hyfforddi ynghyd â’r wybodaeth archebu.

Mae’r hyfforddiant hwn ar gael i holl weithwyr gofal plant yn y sector gofal plant nas cynhelir, sy’n gweithio mewn lleoliad yn ardal Caerdydd ar hyn o bryd a gall gynnwys gwirfoddolwyr a darparwyr heb eu cofrestru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant.  Cynghorir i bob lleoliad gofal plant cofrestredig fod yn aelodau o sefydliadau ymbarél gan y byddai hyfforddiant a budd-daliadau eraill ar gael wedyn.

Cyfrifoldeb y Lleoliad Gofal Plant

  • Rhaid i’r rheolwr llinell a bennwyd i archebu’r lleoedd hyfforddi sicrhau ei fod ond yn archebu lle ar gyfer staff a ddyrennir i’w lleoliad gofal plant nhw.
  • Rhaid i’r rhai sy’n mynychu gadw at ein Cod Ymddygiad.  Gall methu â gwneud hynny efallai olygu na chaiff yr unigolyn fynychu cyrsiau yn y dyfodol.
  • Mae’n bosib y bydd cyrsiau hyfforddi yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gydol y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl ohebiaeth gan Ddatblygu’r Gweithlu Caerdydd yn rheolaidd i gael manylion a diweddariadau. Gallwch ofyn am gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio trwy anfon e-bost atom yn DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
  • Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw egluro’r broses hyfforddi i’w staff. Rhaid i reolwyr sy’n cyflenwi cyfeiriadau e-bost eu staff a/neu rifau ffôn symudol sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r rhesymau dros hyn a chytuno i’w data gael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd. Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd yma: https://cardifffamilies.co.uk/cy/hysbysiad-preifatrwydd-canolfan-datblygu-ac-achredur-gweithlu-cymorth-cynnar-caerdydd/
  • Sicrhewch fod y manylion a ddarperir yn gywir ac yn gyfredol, anfonir pob gohebiaeth drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarperir wrth archebu.
  • Os oes angen i chi amnewid mynychwr ar gwrs, rhaid cwblhau hyn o fewn 24 awr cyn dyddiad ac amser cychwyn y cwrs. Gall rheolwyr llinell amnewid aelodau staff ar gwrs drwy gysylltu â Datblygu’r Gweithlu Caerdydd. Gallai methu ag amnewid aelodau staff cyn cwrs arwain at wrthod mynediad i’n safle a hefyd i’r cwrs hyfforddi.
  • Gwrthodir mynediad ar ddechrau’r hyfforddiant i unigolion nad ydynt ar y rhestr bresenoldeb.
  • Cyfrifoldeb y mynychwr yw darllen a deall y canllawiau Iechyd a Diogelwch yn llawn yn yr ystafelloedd hyfforddi.
  • Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw rhoi gwybod i Ddatblygu’r Gweithlu Caerdydd cyn i’r cwrs gael ei gynnal os bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar unrhyw un sy’n mynychu er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.

Archebu

  • Rhaid gwneud pob archeb drwy gysylltu â Datblygu’r Gweithlu Caerdydd drwy DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
  • Dim ond tîm Datblygu’r Gweithlu all wneud newidiadau, cysylltwch ag aelod o’r tîm os oes angen cymorth arnoch.
  • Cofiwch y gellid gosod cyfyngiadau ar niferoedd yr archebion sydd ar gael ar gyfer pob tîm fesul cwrs.
  • Bydd rhestrau wrth gefn yn cael eu cynnal ar y pwynt gwneud cais os yw’r cwrs yn llawn. Bydd Datblygu’r Gweithlu Caerdydd yn cysylltu â’r lleoliad perthnasol os a phan fydd lleoedd ar gael.

Polisi Talu/Canslo

  • Rhaid talu am bob lle cyn y cynhelir y cwrs trwy daliad ffôn cerdyn debyd/credyd.
  • Bydd angen i leoliadau gofal plant Awdurdod Lleol gyflwyno’u codau cost wrth archebu er mwyn prosesu taliad drwy drosglwyddiad ‘journal’. Dylai cofnodion y trafodion hyn gael eu cadw gan y lleoliad gofal plant.
  • Bydd cadarnhad o’r archeb yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a roddwyd adeg cadarnhau archeb. Caiff derbynneb ei chyflwyno hefyd gan Borthol Taliadau Capita. Dylai’r lleoliad ei chadw ar gyfer cofnodion ariannol.
  • Caiff ad-daliadau eu rhoi dim ond os caiff lle ei ganslo o leiaf saith diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. Nid oes eithriad i’r rheol hon.
  • Ar gyfer achosion o Covid 19 wedi’u cadarnhau, dim ond ar ôl derbyn cadarnhad swyddogol o ganlyniad positif ar safle adrodd Gov.UK y gwneir ad-daliad neu drosglwyddo lle.
  • Gall lleoliadau amnewid yr aelodau o staff ar gyrsiau hyd at y diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau.
  • Gallwch newid eich archeb i gwrs hwyrach, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod o leiaf saith diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. I newid archeb cysylltwch â thîm Datblygu’r Gweithlu.
  • Ar gyfer gosodiadau Dechrau’n Deg nad ydynt yn dilyn y polisi canslo a fanylir uchod, neu lle mae achosion o beidio â mynychu gan staff gofal plant Dechrau’n Deg, yn unol â thelerau Manyleb Gwasanaeth Dechrau’n Deg codir y ffi mynychu cwrs safonol ar y lleoliad. Ni fydd eithriad i’r rheol hon.
  • Os bydd Datblygu’r Gweithlu yn canslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir ad-daliad.
  • Mae Datblygu’r Gweithlu a’u partneriaid hyfforddi yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i fynychwyr cyn yr hyfforddiant lle nad yw taliad wedi dod i law.

Cod Ymddygiad i Ddysgwyr

  • Nod Datblygu’r Gweithlu yw cyflwyno safonau uchel o hyfforddiant o ansawdd a fydd yn arwain, ysbrydoli a chefnogi holl gyfranogwyr y cwrs.
  • Ein nod yw creu awyrgylch o frwdfrydedd a chyd-gefnogaeth a pharch rhwng staff y ganolfan, hyfforddwyr a’r mynychwyr er mwyn gwneud y mwyaf o brofiadau a chanlyniadau dysgu’r unigolyn i’r eithaf.
  • Anogir pob hyfforddwr a dysgwr i wrando ar safbwyntiau ei gilydd ac ystyried safbwyntiau ei gilydd.  Cofiwch fod yr hyfforddwyr yn arbenigwyr yn eu maes penodol ac felly gofynnwn i chi barchu hyn. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig ac anogir cyfranogiad cadarnhaol.
  • Gofynnwn hefyd i chi wneud eich hun yn ymwybodol o iechyd a diogelwch, trwy fod yn ymwybodol o gyfleusterau ac o weithdrefnau brys.
  • Gofynnwn am gydweithrediad yr holl gyfranogwyr i gadw at ein Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hyfforddi’n cael ei gynnal yn llwyddiannus o fewn amgylchedd saff a diogel. Gall methu â chadw at hyn arwain at waharddiad o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol.
  • Llenwch ein ffurflenni gwerthuso cwrs ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych i’n galluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth ymhellach.
  • Siaradwch â’r hyfforddwr os ydych yn teimlo y gallech elwa o gymorth sgiliau hanfodol.  Bydd yr hyfforddwr yn trafod pob opsiwn cymorth sydd ar gael i chi mewn modd cyfrinachol.

Peidiwch â defnyddio eich ffonau symudol yn ystod yr hyfforddiant.  Os ydych chi’n disgwyl galwad frys, dwedwch wrth yr hyfforddwr ar ddechrau’r sesiwn.