
Mae’r Mynegai yn gofrestr wirfoddol ar gyfer rhieni a gofalwyr plentyn neu berson ifanc 0 i 25 oed.
Os byddwch yn cofrestru ar gyfer y Mynegai, gallwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi a fydd yn berthnasol ac yn fuddiol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau, digwyddiadau a gweithgareddau yng Nghaerdydd a’r cyffiniau.
Gallwch gofrestru ar Y Mynegai os ydych:
- yn rhiant a gofalwr i rywun rhwng 0 a 25 oed sydd ag anabledd wedi’i ddiagnosio neu sydd ag anghenion ychwanegol, neu’n
- weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl 0 i 25 oed sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol.
Os ydych chi’n weithiwr proffesiynol ac yr hoffech gofrestru ar y rhestr bostio neu gyflwyno erthygl ar gyfer bwletinau, e-bostiwch YMynegai@caerdydd.gov.uk.
Gwybodaeth a chymorth i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion ychwanegol.