A Cardiff secondary school

Pan fyddwch chi’n meddwl am yr ysgol ydych chi’n:

  • teimlo’n bryderus,
  • teimlo ofnus,
  • cael trafferth cysgu,
  • teimlo’n sâl neu’n esgus bod yn sâl,
  • teimlo’n isel,
  • cael tymer drwg,
  • poeni am eich perthynas â ffrindiau, neu’n
  • teimlo’n ansicr amdanoch chi’ch hun?

Dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae’n normal teimlo fel hyn oherwydd pethau sy’n digwydd yn eich bywyd gartref neu yn yr ysgol.

Dyma rai pethau yn yr ysgol a allai fod yn achosi i chi deimlo fel hyn:

  • Problemau gyda ffrindiau.
  • Bwlio.
  • Newid ysgol.
  • Teimlo’n wahanol i bobl eraill.
  • Poeni am waith ysgol.
  • Poeni am eich pryd a gwedd.
  • Ddim yn tynnu ymlaen â rhai athrawon.
  • Teimlo’n bryderus am arholiadau a phrofion.
  • Teimlo dan bwysau i gyflawni graddau penodol.
  • Teimlo nad ydych chi’n dda mewn rhai pynciau.
  • Poeni am newid ar gyfer Addysg Gorfforol neu gemau.
  • Poeni am amgylchedd swnllyd yr ysgol.

Dyma rai pethau gartref a allai fod yn achosi i chi deimlo fel hyn:

  • Rhieni/gofalwyr yn dadlau neu’n gwahanu.
  • Marwolaeth rhywun sy’n bwysig i chi.
  • Rhiant/gofalwr yn sâl.
  • Brawd neu chwaer newydd wedi eu geni.
  • Anawsterau cyrraedd yr ysgol.
  • Aelodau o’ch teulu yn teimlo’n drist neu’n isel.
  • Pobl newydd yn symud i’ch cartref.
  • Rhieni/gofalwyr ddim yn deall eich teimladau.

Weithiau, efallai y byddwch chi’n teimlo mai aros gartref yw’r peth gorau i’w wneud. Ond po fwyaf o amser rydych chi’n ei dreulio y tu allan i’r ysgol y mwyaf o ddysgu y byddwch yn ei golli.

Byddwch hefyd yn colli allan ar weld eich ffrindiau. Gall hyn wneud cadw ffrindiau yn fwy anodd.

Worrying about school diagram

Mae’n bwysig siarad â rhywun all eich helpu a gwneud i chi deimlo’n hapus yn yr ysgol eto. Gall hyn gynnwys:

  • eich rhieni neu ofalwyr,
  • aelodau eraill o’r teulu,
  • oedolyn yn yr ysgol, neu
  • eich ffrindiau.

Gallwch feddwl am y pethau sy’n eich poeni ac ysgrifennu rhestr neu dynnu llun ohonyn nhw yn ôl trefn y rhai sy’n eich poeni mwyaf i’r rhai sy’n eich poeni lleiaf.

Gallech hefyd drio:

Ymlacio eich corff

  • Eisteddwch neu gorweddwch yn rhywle tawel a chyfforddus.
  • Estynnwch eich breichiau allan a chau’ch dwrn, ac yna ymlaciwch
  • Gwthiwch eich coesau allan, yna ymlaciwch.
  • Caewch eich llygaid yn dynn a thynhewch yr holl gyhyrau yn eich wyneb, ac yna ymlaciwch.

Anadlu i ymlacio

  • Anadlwch yn araf i mewn drwy eich trwyn am tua 4 eiliad.
  • Daliwch eich anadl am eiliad neu ddwy.
  • Anadlwch allan yn araf drwy eich ceg am tua 4 eiliad.
  • Gwnewch hyn 5-10 o weithiau.

Ymarfer corff

Mae ymarfer corff yn cynyddu curiad eich calon ac yn rhyddhau endorffinau sy'n gwneud i chi deimlo'n dda.

Dewiswch ymarfer corff rydych chi'n hoff ohono ac adeiladwch eich ymarfer corff o gwmpas hynny.

Delweddu

  • Caewch eich llygaid ac anadlwch yn ddwfn.
  • Meddyliwch am eich hoff le.
  • Canolbwyntiwch ar y lle hwnnw a dychmygwch eich hun yno.
  • Beth gallwch chi ei weld? Beth gallwch chi ei aroglu? Beth gallwch chi ei deimlo?

Meddyliwch yn gytbwys

Os ydych chi'n cael meddwl negyddol, ceisiwch feddwl am rywbeth mwy cytbwys neu gadarnhaol yn lle hynny. Er enghraifft, gallai meddwl negyddol fod yn rhywbeth fel “bydda i’n methu fy arholiad.” Meddwl mwy cytbwys neu gadarnhaol fyddai “Os ydw i'n gweithio'n galed, mi wna i’n iawn yn fy arholiad.”

Ceisiwch wneud hyn bob tro y byddwch yn sylwi ar eich hun yn meddwl yn negyddol.

Mae’n bwysig dod o hyd i oedolyn yn yr ysgol rydych chi’n ymddiried ynddo a siarad ag e neu hi.  Gall eich ysgol weithio gyda chi a’ch rhieni neu ofalwyr i’ch helpu. Gallen nhw wneud pethau fel:

  • helpu gyda’ch gwaith ysgol,
  • helpu gyda’ch perthynas â ffrindiau,
  • neilltuo lle diogel i chi fynd iddo, neu
  • addasu eich amserlen.

Gellir ymgorffori’r rhain mewn cynllun fel eich bod chi, eich rhieni neu’ch gofalwyr a’ch ysgol yn gwybod beth sydd wedi cael ei gytuno i’ch helpu.

Gall eich ysgol a’ch rhieni neu ofalwyr eich cefnogi i fynd yn ôl i’r ysgol. Dyma rai camau y gallwch eu cymryd:

  • Meddyliwch am bethau fydd yn eich helpu i fynd yn ôl i’r ysgol a chynlluniwch hyn gyda’ch athrawon a’ch rhieni neu’ch gofalwyr.
  • Cadwch mewn cysylltiad â’ch ffrindiau ysgol.
  • Daliwch i fyny ar rywfaint o’r gwaith y gallech fod wedi’i golli cyn i chi ddychwelyd.
  • Rhowch gamau bach ar waith i ailsefydlu trefn.