A Cardiff primary school

Efallai eich bod yn teimlo’n ofidus, yn drist neu’n bryderus am fynd i’r ysgol.

Gall hyn ddigwydd yn y nos cyn mynd i’r ysgol ac yn y bore.

Po fwyaf y byddwch chi’n aros bant o’r ysgol, y mwyaf pryderus y gallwch fynd am fynd i’r ysgol.

Mae’n iawn cael pryderon.

Ond weithiau, gall pryderon deimlo’n rhy fawr. Felly, mae’n bwysig dod o hyd i rywun neu rywbeth a all eich helpu.

Pan na fyddwch yn mynd i’r ysgol, efallai y byddwch yn pryderu am:

  • y gwaith rydych wedi’i golli,
  • gweld eich ffrindiau a’ch athrawon eto, neu
  • beth mae pobl wedi bod yn ei wneud neu ei ddweud.

Beth i’w wneud os ydych chi’n teimlo fel hyn

Mae’n bwysig eich bod yn siarad â rhywun all eich helpu a gwneud i chi deimlo’n hapus yn yr ysgol eto. Gall hyn gynnwys:

  • eich rhieni neu ofalwyr,
  • aelodau eraill o’r teulu,
  • oedolyn yn yr ysgol, neu
  • eich ffrindiau.

Gall eich helpu i feddwl am:

  • 3 peth rydych chi’n eu hoffi fwyaf am yr ysgol,
  • 3 peth rydych chi’n eu drwghoffi fwyaf am yr ysgol, a
  • pe bai un peth y gallech ei newid am yr ysgol, beth fyddai hynny?

Os nad ydych am siarad amdano, efallai y gallech dynnu llun o’r hyn sy’n eich poeni.

Pan fyddwch chi’n teimlo’n bryderus neu’n drist, mae pethau y gallwch eu gwneud i wneud i chi deimlo’n well.

Ceisiwch ymlacio’ch corff

  • Eisteddwch neu gorweddwch yn rhywle tawel a chyfforddus.
  • Estynnwch eich breichiau allan a chau’ch dwrn, ac yna ymlaciwch.
  • Gwthiwch eich coesau allan, symudwch fysedd eich traed ac yna ymlaciwch.
  • Caewch eich llygaid yn dynn a thynhewch yr holl gyhyrau yn eich wyneb, ac yna ymlaciwch.

Ceisiwch anadlu’n araf ac yn ddwfn

  • Anadlwch yn araf i mewn drwy eich trwyn am tua 4 eiliad.
  • Daliwch eich anadl am eiliad neu ddwy.
  • Anadlwch allan yn araf drwy eich ceg am tua 4 eiliad.
  • Arhoswch 2-3 eiliad cyn anadlu eto.
  • Gwnewch hyn 5-10 o weithiau.

Ceisiwch wneud ymarfer corff

Gallwch drio:
  • neidiau seren,
  • byrfreichiau,
  • rhedeg yn yr ardd, neu
  • pêl-droed.

Ceisiwch gadw dyddiadur

Llyfr arbennig yw hwn i ysgrifennu neu dynnu llun ynddo am rywbeth da a ddigwyddodd i chi neu rywbeth yn eich bywyd sy'n eich gwneud chi’n hapus.

Dylech wneud hyn bob dydd.