Mae llawer o blant a phobl ifanc yn poeni am yr ysgol ar ryw adeg ac efallai y byddan nhw’n dweud bod yn well ganddyn nhw fod gartref. Mae hyn yn arferol.

Weithiau gall pryderon plentyn neu berson ifanc fynd yn ormod a gall hyn arwain at anawsterau o ran mynd i’r ysgol. Efallai y byddan nhw’n dangos arwyddion o orbryder difrifol ac yn teimlo’n ofidus wrth feddwl am fynd i’r ysgol.

Mae Osgoi’r Ysgol ar Sail Gorbryder (OYSG) yn derm a ddefnyddir pan fydd plentyn neu berson ifanc yn ei chael hi’n anodd mynd i’r ysgol oherwydd orbryder neu ofid emosiynol. Gall OYSG arwain at gyfnodau hir o absenoldeb i’r plentyn neu berson ifanc.

Nid oes un peth penodol yn achosi OYSG ac mae fel arfer yn codi oherwydd nifer o ffactorau. Gall y canlynol achosi OYSG:

  • Newidiadau mewn amgylchiadau. Er enghraifft, pontio rhwng cyfnodau ysgol (o flwyddyn 2 i flwyddyn 3) neu o ysgol i ysgol (cynradd i uwchradd).
  • Mwy o bwysau a gofynion addysgol. Er enghraifft, anawsterau gyda dysgu neu arholiadau.
  • Anawsterau gyda chyfoedion/perthnasoedd â ffrindiau/bwlio
  • Pethau sy’n achosi straen yn yr ysgol. Er enghraifft, sŵn neu orlenwi.
  • Gwahanu, colled neu brofedigaeth.
  • Newidiadau sylweddol mewn amgylchiadau a dynameg y teulu. Er enghraifft, symud tŷ neu rieni’n gwahanu.

Dyma sut y gall ymddygiadau OYSG ddatblygu:

The cycle of how Anxiety based school avoidance can developArwyddion OYSG

Mae arwyddion yn cynnwys:

  • Bola tost a phen tost.
  • Teimlo’n sâl pan mae’n amser mynd i’r ysgol.
  • Trafferth cysgu neu amharodrwydd i adael y gwely yn y bore.
  • Dagreuol neu’n anhapus.
  • Anfodlon eich gadael chi.
  • Teimlo’n ‘sâl’ ar ôl penwythnos neu wyliau.
  • Ceisio osgoi’r ysgol neu anawsterau wrth adael y tŷ.
  • Tynnu’n ôl a ddim eisiau cymdeithasu gyda ffrindiau.

Mae’n bwysig ceisio helpu plant a phobl ifanc i oresgyn yr anawsterau hyn cyn gynted â phosibl. Po hiraf y bydd plentyn neu berson ifanc bant o’r ysgol, y mwyaf tebygol ydyw y bydd yn colli allan ar ddysgu a chyfeillgarwch gwerthfawr. Gall hyn ei gwneud hi’n anoddach fyth dychwelyd i’r ysgol. Drwy ddelio â’r pryderon hyn yn gynnar, mae’n haws newid ymddygiad eich plentyn.

Gall fod yn anodd iawn i chi, fel rhiant, weld eich plentyn yn anhapus. Dyma rai o’r camau y gallwch eu cymryd:

  • Sicrhewch fod gennych rywun i siarad â nhw fel aelod o’r teulu, ffrind neu sefydliad.
  • Cadwch yn bwyllog, a gwrandewch ar eich plentyn.
  • Dywedwch wrth yr ysgol fod problem a gweithiwch mewn partneriaeth â staff.
  • Rhowch sicrwydd i’ch plentyn y byddwch chi a’r ysgol yn gweithio gydag e/hi i wneud yr ysgol yn lle hapusach iddo/iddi.
  • Gofynnwch i’ch plentyn a oes unrhyw beth yn peri pryder iddo/iddi gartref (e.e. newidiadau neu fywyd teuluol) neu yn yr ysgol (e.e. llwyth gwaith, amgylchedd neu anawsterau gyda ffrindiau neu gyfoedion).
  • Arhoswch yn bositif a cheisiwch beidio â dangos i’ch plentyn eich bod yn poeni drwy betruso yn y boreau.
  • Byddwch yn gadarn ynghylch dychwelyd i’r ysgol ar unwaith.
  • Rhowch sylw i allu eich plentyn i deimlo’n well pan fydd yn dweud ei fod yn teimlo’n sâl (e.e. sylwi bod yfed dŵr wedi helpu neu sylwi ei fod yn gallu bwrw ymlaen â phethau).
  • Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’r ysgol.
  • Canolbwyntiwch ar unrhyw sylwadau cadarnhaol mae eich plentyn yn ei wneud am yr ysgol.
  • Cynlluniwch weithgaredd pleserus i’w wneud ar ddiwedd diwrnod ysgol.
  • Gwobrwywch allu eich plentyn i fynychu ac unrhyw dystiolaeth o dactegau ymdopi mae’n eu defnyddio.
  • Osgowch atgyfnerthu hoff weithgareddau neu weithgareddau ysgogol pan fydd eich plentyn gartref (e.e. chwarae gemau cyfrifiadur, gwylio’r teledu neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol).
  • Cadwch at eich cynllun yn ddigon hir iddo weithio. Mae’n arferol i’ch plentyn fynd yn fwy pryderus dros yr ychydig ddyddiau cyntaf.
Girl consoling her sad friend

Rydyn ni i gyd yn ei chael yn anodd siarad am y pethau sy’n ein gwneud yn bryderus.

Mae plant neu bobl ifanc sy’n osgoi’r ysgol yn debygol o fynd yn bryderus pan ofynnir iddynt siarad am ddychwelyd i’r ysgol. Mae’n bwysig cydnabod y gallai fod yn anodd iddynt.

Gadewch iddyn nhw wybod bod gennych chi ddiddordeb mewn sut maen nhw’n teimlo. Os ydyn nhw’n ei chael hi’n anodd siarad, gallech ofyn cwestiynau penodol i’w helpu i roi trefn ar eu meddyliau a’u teimladau.

Dyma rai cwestiynau y gallech eu gofyn:

  • Pa 3 pheth wyt ti’n poeni fwyaf amdanynt?
  • Pa 3 pheth wyt ti wedi bod yn poeni amdanynt yn ddiweddar?

Mae hefyd yn bwysig canolbwyntio ar agweddau cadarnhaol ar yr ysgol:

  • Beth yw’r 3 pheth gorau am yr ysgol?

Efallai y bydd rhai plant a phobl ifanc yn ei chael hi’n anodd dweud wrthych wyneb yn wyneb. Gallech ofyn iddynt ei ysgrifennu ar bapur, mewn e-bost neu mewn neges destun, neu hyd yn oed dynnu llun o sut maen nhw’n teimlo.

A Cardiff primary school
  • Cysylltu’n gynnar â chi i drafod amharodrwydd eich plentyn i fynychu’r ysgol.
  • Gwrando’n astud arnoch chi a’ch plentyn. Dylent gydnabod yr heriau mae eich plentyn yn eu hwynebu, a’r rhai rydych chi fel rhiant neu ofalwr yn eu hwynebu.
  • Monitro presenoldeb eich plentyn yn ofalus a chwilio am batrymau absenoldeb.
  • Helpu i adnabod rhai o’r ffactorau sy’n cyfrannu at y gorbryder o ran mynd i’r ysgol.
  • Cadw cysylltiad agos â chi a’ch plentyn, hyd yn oed yn ystod cyfnodau estynedig o ddiffyg presenoldeb.
  • Dylid cytuno ar aelod o staff i fod yn berson cyswllt.
  • Cynllunio ailintegreiddio’ch plentyn yn ofalus ac yn raddol. Dylai’r cynllun gynnwys beth fydd y camau nesaf.
  • Gwneud addasiadau i amserlen eich plentyn, os yn briodol.
  • Darparu lle ‘diogel’ i’ch plentyn a, lle bo’n bosibl, mynediad i oedolyn allweddol.
  • Gwneud newidiadau i’r amgylchedd dysgu er mwyn creu mwy o ymdeimlad o ddiogelwch.
  • Darparu mynediad at gymorth emosiynol neu gymorth hyder cymdeithasol.
  • Darparu mynediad at gymorth dysgu os oes angen.
  • Awgrymu atgyfeiriadau at weithwyr proffesiynol eraill os bydd y broblem yn parhau.
  • Dylai’r ysgol gyfeirio at ein Canllaw OYSG ar gyfer Ysgolion.

Angen mwy o help?

Mae yna dimau neu sefydliadau y gallwch gysylltu â nhw i gael mwy o gymorth.