Mae dewis y gofal plant cywir yn benderfyniad mawr, yn enwedig os nad ydych wedi gwneud hynny o’r blaen. Ond peidiwch â phoeni, mae llawer o help ar gael.
Os ydych yn chwilio am ofal plant, darllenwch ein canllaw i gael cyngor ar y canlynol:
- gwahanol fathau o ofal plant,
- cymorth gyda chostau gofal plant, a
- chwestiynau i’w gofyn i leoliad gofal plant.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig cyngor ar ei gwefan Dewis Gofal Plant.
Dod o hyd i ddarparwr gofal plant cofrestredig
Os ydych yn gwybod pa fath o ofal plant rydych yn chwilio amdano, ewch i www.gwybodaethgofalplant.cymru i ddod o hyd i ddarparwyr gofal plant cofrestredig yn eich ardal.
Cynnig Gofal Plant Cymru
Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn rhoi hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar a ariennir i rieni cymwys ar gyfer plant 3 a 4 oed.
Gweld a allwch hawlio’r Cynnig Gofal Plant.
Angen cymorth ychwanegol?
Os oes angen rhagor o help arnoch ac yr hoffech drafod eich opsiynau, cysylltwch â ni dros y ffôn neu sgwrs gwe.
Gallwch fynd i’r sgwrs gwe drwy glicio ar y botwm ‘angen help?’ ar y dudalen hon.
Ffôn: 03000 133 133