Bod yn rhiant ifanc

Mae’r Pecyn Gwybodaeth hwn ar gyfer pobl ifanc 13-17 oed yng Nghaerdydd sy’n feichiog neu sydd eisoes yn rhieni ifanc. Mae ynddo wybodaeth a chyrsiau ymarferol a all
eich helpu i’ch cefnogi eich hun a’ch plentyn. Gall hefyd roi syniadau i chi ynghylch sut y gallech ddychwelyd i’r ysgol neu ddychwelyd i addysg, pan fyddwch yn teimlo’n barod.

Pam mae’n bwsig meddwl am fy nyfodol nawr? Oni ddylwn i fod yn canolbwyntio ar fy meichiogrwydd a’r babi?

Mae’r ddau beth yn bwysig!

Dylech, yn sicr fe ddylech fod yn canolbwyntio ar y beichiogrwydd a’r babi. Mae llawer o gyrsiau y gallwch eu cyrchu drwy Dîm Rhianta Caerdydd a fydd yn eich cefnogi cyn ac ar ôl i’r babi gael ei eni.


Gall cyrsiau fel GroBrain a’r Rhaglen Magu Plant eich helpu i gefnogi datblygiad eich babi, cefnogi sut rydych yn rhyngweithio â’ch babi a deall camau datblygiad eich babi a phryd byddan nhw’n digwydd. Gallwn gynnal llawer o’r cyrsiau hyn ar gyfer Rhieni Ifanc yn unig a fydd, gobeithio, yn gwneud i chi deimlo’n gartrefol.


Mae eich datblygiad a’ch cyfleoedd yn y dyfodol hyd yn oed yn bwysicach nawr. Mae llawer o dystiolaeth yn awgrymu bod lefel addysg rhiant yn gwneud gwahaniaeth i lwyddiant y plentyn yn y dyfodol.


Rhieni yw’r dylanwad cyntaf a mwyaf ym mywyd plentyn — gan arwain yr hyn y mae’n ei fwyta, ble mae’n byw a sut mae’n dysgu.

Mae meddwl am eich dyfodol eich hun hefyd yn fuddsoddiad i’ch plentyn ac yn eich paratoi i’w helpu i ddysgu.

Rwyf ar fin dod yn dad, sut galla i baratoi a sut galla I helpu fy mhartner?

Gall dod yn dad beri pryder. Mae llawer o bethau newydd yn digwydd, ond mae llawer o gefnogaeth hefyd. Paratowch:

  • darllenwch bethau’n ymwneud â bod yn rhiant
  • siaradwch â thadau eraill
  • cofrestrwch ar gyrsiau rhianta
  • dysgwch sgiliau newydd.

Ambell beth y gallwch eu gwneud i gefnogi eich partner:

  • bod yn gyson — arhoswch yn ddigynnwrf ac yn gadarnhaol
  • bod o gymorth — meddyliwch am lawer o ffyrdd ymarferol o helpu o amgylch y cartref fel ei gadw’n lân ac yn daclus
  • bod yn ymrwymedig — siaradwch am eich cynlluniau a’ch rôl
  • treulio amser — mae ansawdd a chynnwys eich amser gyda’ch babi yn bwysicach na dim ond faint o amser rydych chi yno.

 

Sut gall fy rhieni/gofalwyr fy helpu?

Gallan nhw:

  • fod yn gefnogol — gwrando ar eich pryderon a’ch gofidiau
  • rhoi cyngor — maen nhw wedi cael plant ac wedi gweithio drwy lawer o’r heriau o fod yn rhiant
  • cynnig i ofalu am y plentyn — felly gallwch gael ychydig o amser i chi’ch hun neu fynd ar gwrs

Gwasanaethau Cymorth

Mae mamau ifanc dan 16 oed yn cael cymorth gan fydwraig ELAN sy’n rhoi cymorth cymdeithasol

ychwanegol yn ystod y beichiogrwydd. Maen nhw hefyd yn cael cymorth gan ymwelydd gofal iechyd

wedi i’r babi gael ei eni.

Mae mamau ifanc 16-17 oed yn cael cymorth gan fydwraig ELAN fydd yn rhoi cymorth cymdeithasol

ychwanegol yn ystod y beichiogrwydd. Gallan nhw gael eu hatgyfeirio hefyd at Wasanaethau Dechrau’n

Deg a chael cymorth gan Ymwelydd Iechyd Dechrau’n Deg.

Mae Dechrau’n Deg yn cefnogi plant 0-3 oed 11 mis oed mewn ardaloedd penodol yng Nghaerdydd.

Mae’r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

  • gwasanaeth ymwelwyr gofal iechyd dwysach
  • mynediad at raglenni rhianta
  • cymorth i blant ddysgu sut i siarad a chyfathrebu
  • gofal plant rhan-amser i blant rhwng 2 a 3 oed.

Cymorth Ariannol Sydd ar Gael

Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn:

£500 i helpu gyda chostau cael babi newydd. I gael y grant hwn mae’n rhaid i chi neu’ch partner fod yn cael un o’r budd-daliadau hyn:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n Gysylltiedig ag Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Cynhwysol.

Dim ond os mai eich babi newydd yw’r unig fabi neu blentyn yn y cartref y mae ar gael. Rhaid hawlio’r grant o fewn 11 wythnos i’r dyddiad y disgwylir geni’r babi neu o fewn chwe mis i’r enedigaeth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: turn2us.org.uk/Benefit-guides/Sure-StartMaternity-Grant/Who-can-get-a-Sure-Start-Maternity-Grant

 Grwpiau Baby Roots

Mae’r grwpiau hyn ar gyfer rhieni ifanc ac mae ganddynt lawer o weithgareddau i’w gwneud gyda’ch plant, yn ogystal â chyngor a chymorth.


Mae tri grŵp:

  1. Powerhouse (Llanedeyrn) — bob dydd Iau (yn ystod y tymor) am 12:45-2.45pm.

Cyswllt: Rachael 07970601632 rachael.barry2@cardiff.gov.uk neu Leanne 07976056140 leanne.williams@cardiff.gov.uk

  1. Llaneirwg — bob dydd Gwener (yn ystod y tymor) am 12.45-2.45pm.

Cyswllt: Rachael 07970601632 rachael.barry2@cardiff.gov.uk neu Leanne 07976056140 leanne.williams@cardiff.gov.uk

  1. Grassroots, Heol Charles — bob dydd Mawrth am 1-3pm

Cyswllt: Louise.Coombs@cardif.gov.uk Instagram: @grassrootscf10 Facebook: grassrootscardiff

Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu cyfleoedd a hrofiadau diddorol, heriol a chreadigol. Rhagor o wybodaeth:

  • Instagram: @cardiffyouthservice
  • Facebook: cardiffyouthservice

Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro

Nod y prosiect hwn yw denu ymgysylltiad gan lawer o deuluoedd ac annog agweddau cadarnhaol tuag at addysg. Mae’r tîm o athrawon cymwysedig yn cyflwyno cyrsiau a gweithdai wedi eu cynllunio i fynd â theuluoedd ar daith ddysgu gyffrous gyda’i gilydd.

Yn ogystal â rhoi dealltwriaeth i rieni o sut i gefnogi eu plant mae cyfle i ennill cymhwyster. Yn rhan o’r cwrs, mae rhieni’n dod yn fyfyrwyr coleg ac yn cael cyfle i ymweld â’r coleg a darganfod mwy. Gellir teilwra’r cyrsiau hyn at anghenion unigol ac maen nhw i gyd am ddim. Am ragor o wybodaeth e-bostiwch y tîm dysgu:

 Gellir cynnal cyrsiau penodol ar gyfer rhieni ifanc

NHS Wales logo

 Cyrsiau Rhoi Cynnig ar Goginio

Mae Rhoi Cynnig ar Goginio yn gwrs 9 wythnos rydych chi’n ei fynychu unwaith yr wythnos am ddwy awr. Mae crèche ar gael i’ch plentyn wrth i chi goginio.

Mae Get Cooking yn gwrs 9 wythnos am ddim i famau, tadau a gofalwyr eraill. Caiff y sesiynau eu cynnal unwaith yr wythnos am ddwy awr bob tro.

  • Croeso i gogyddion hen a newydd!
  • Syniadau am brydau cyflym, rhwydd a blasus
  • Cewch fynd â phlatied o’r hyn a grewyd gennych adref gyda chi
  • Cyfle i ennill credydau Agored Cymru
  • Cwrdd â phobl newydd
  • Anrheg a llyfr rysetiau am ddim pan gwblhewch y cwrs

I holi am gyrsiau Get Cooking cysylltwch â:
Y Tîm Bwyd Dechrau’n Deg
Telephone: 029 20351377

Cardiff Flying Start

Mae gwybodaeth am dylino babis ar gael gan eich Ymwelydd Iechyd.

Llwybrau Dilyniant

Darpariaeth Chweched Dosbarth a Choleg

Mae’r Chweched Dosbarth a’r Coleg yn eich helpu i ddatblygu sgiliau drwy amrywiaeth o gyrsiau fel:

  • TGAU
  • Lefel A/Safon Uwch
  • Cyrsiau Mynediad
  • Lefel BTEC
  • Prentisiaethau a mwy.

I gael rhagor o wybodaeth:

cavc.ac.uk/cy

cymraeg.stdavidscollege.ac.uk

Cynlluniau hyfforddi

Rhaglenni dysgu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed yw cynlluniau hyfforddi. Maen nhw’n eich helpu i gael sgiliau swydd a symud yn eich blaen i ddysgu pellach neu brentisiaeth

  • Gall cynlluniau hyfforddi roi blas I chi o swydd y gallai fod gennych ddiddordeb ynddi, cyn i chi ymrwymo I gwrs neu brentisiaeth.
  • Cewch eich talu am ddilyn Cynllun Hyfforddi a byddwch yn derbyn cymorth gan eich cyflogwr i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth ymhellach.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gyrfa Cymru: gyrfacymru.llyw.cymru/cysylltu-a-ni

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yng Nghymru yn swyddi sy’n cynnwys cymwysterau cydnabyddedig a sgiliau sy’n

benodol i’r swydd. Rydych chi’n ennill cyflog ac yn dysgu wrth i chi weithio mewn swydd ac astudio yn y coleg (llawn-amser neu ran-amser), neu mewn canolfan hyfforddi.

Beth yw lefelau Prentisiaeth?

  • Prentisiaeth Sylfaen — byddech fel arfer yn ennill cymhwyster Lefel 2 (sy’n cyfateb i Lefel TGAU A*-C).
  • Prentisiaeth — byddech yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 3 (cyfwerth â Lefel A/Safon Uwch).
  • Prentisiaeth Uwch — byddech yn gweithio tuag at gymhwyster uwch Lefel 4 ac uwch. Gallai hyn fod yn Dystysgrif Genedlaethol Uwch/Diploma Cenedlaethol Uwch neu’n Radd Sylfaen.
  • Prentisiaeth Gradd — mae’r rhain yn cynnig dysgu ar Lefel 6 ac yn rhoi’r cyfle i ennill gradd baglor

lawn. Maen nhw’n cyfuno gweithio gydag astudio’n rhan-amser mewn prifysgol neu goleg.

I ddysgu mwy:

llyw.cymru/chwilio-am-brentisiaeth

gyrfacymru.llyw.cymru/prentisiaethau/beth-yw-prentisiaeth neu

cysylltwch â Gwasanaethau i Mewn i Waith Cyngor

Caerdydd.

Cyflogaeth

Gall Gwasanaethau i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd eich helpu i chwilio am swydd. I gael rhagor o

wybodaeth: gyrfacymru.llyw.cymru/cael-swydd

Am ragor o wybodaeth

Cardiff & Vale College: 02920 250 250 or email: info@cavc.ac.uk

Careers Wales: post@careerswales.gov.wales or Online Webchat

Into Work Services: 02920 871 071 or Online Webchat

Cyfleoedd dysgu

Dysgu’n Uniongyrchol — Dysgwch Saesneg a/neu Fathemateg ar-lein am Ddim.

Ar gyfartaledd, mae cyrsiau’n cymryd rhwng 5 ac 8 awr i’w cwblhau, ond cewch benderfynu pa mor hir a pha mor aml y byddwch yn mewngofnodi. Ewch i:

learndirect.com/funding-options/free-english-maths

neu cysylltwch â: Learndirect@cavc.ac.uk

Coleg Caerdydd a’r Fro — Cyllid Gofal Plant i ddysgwyr yng Ngholeg y Barri — isafswm o 12 awr o astudio a rhaid i chi fod ar gwrs addysg bellach.

Mathemateg a Saesneg ar gyfer Bywyd Bob Dydd — Y cyrsiau hyn yw’r cam nesaf i fyny o’r cyrsiau Saesneg a Mathemateg ar-lein, ac fe’u cynhelir ar hyn o bryd yn Neuadd Llanrhymni a safleoedd eraill ledled Caerdydd.

Cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion — Gwella eich sgiliau ac ennill cymhwyster mewn Saesneg, Mathemateg neu Lythrennedd Digidol am £10 yn unig. Gallai’r cyrsiau hyn eich helpu i:

  • ennill cymhwyster sgiliau hanfodol
  • paratoi ar gyfer gwaith neu gwrs coleg
  • gwella sgiliau bob dydd.

Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ledled Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: abe@cavc.ac.uk

Bod yn gennad chwarae

Mae’r Project Cenhadon Chwarae Cymunedol yn gweithio gyda phobl ifanc 14-19 oed i fod yn ‘genhadon chwarae’ trwy hyfforddiant, cymwysterau a lleoliadau gwaith chwarae.

Mae’r cymwysterau’n cynnwys Hyfforddiant Gwaith Chwarae Lefel 1 a Lefel 2 gydag ymrwymiad i wirfoddoli 10 awr y mis am hyd at chwe mis tra byddwch yn cwblhau’r cymhwyster. Mae’r rhain yn cael eu rhedeg mewn lleoliadau amrywiol yng Nghaerdydd, i gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: paula@playwales.co.uk

Bod yn warchodwr plant?

I hyfforddi i fod yn warchodwr plant mae angen i chi fod yn 18 oed o leiaf. Mae’n yrfa sy’n gallu gweithio o amgylch eich cyfrifoldebau’n magu eich plentyn eich hun a gweithio ar yr un pryd.

Nid oes unrhyw ofynion mynediad, ond mae angen i chi fynychu sesiwn gyda Thîm Cymorth Busnes Gofal Plant Caerdydd, sy’n rhad ac am ddim, neu drwy weminar gyda Pacey (y sefydliad Cymorth Gwarchod Plant) sy’n costio £10.

Mae’r Sesiynau’n rhoi llawer o wybodaeth i chi er mwyn i chi allu penderfynu a yw’r opsiwn hwn yn iawn i chi. Os byddwch yn penderfynu ei fod, bydd angen i chi gwblhau hyfforddiant sydd â 2 uned ac sy’n rhan o gymhwyster lefel tri. Mae ffi am y cymhwyster hwn.

Mae gan wefan Pacey adran fanwl ar Fod yn Warchodwr Plant ac mae llawer o wybodaeth hefyd ar Gofal Cymdeithasol Cymru a City and Guilds.

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd

Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn cynnig ystod o wybodaeth, cyngor a chymorth i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghaerdydd. Gall y tîm roi
gwybodaeth a chyngor ynglŷn â’r canlynol:
bywyd teuluol
ymddygiad plant
gofal plant
cymorth i rieni
presenoldeb yn yr ysgol
cyflogaeth, arian a thai
gwybodaeth a chyfeirio at wasanaethau eraill.

Porth Teuluoedd Caerdydd

Mae Porth Teuluoedd Caerdydd yn bwynt cyswllt ar gyfer gwybodaeth, cyngor a chymorth. Bydd y tîm yn gwrando ar eich sefyllfa, yn nodi pa gymorth sydd orau i chi ac yn eich helpu i gael gafael arno. Gall eich helpu i ddod o hyd i bethau fel cyngor ariannol, tai, budd-daliadau lles, ymddygiad plant, gofal plant, presenoldeb yn yr ysgol, iechyd a lles, cymorth i rieni a llawer mwy.


Mae’r Porth Teuluoedd yn gweithio ochr yn ochr â Helpu Teuluoedd a Chymorth i Deuluoedd pan fydd angen cymorth pellach ar deuluoedd.


Neu cysylltwch â Phorth Teuluoedd Caerdydd ar
03000 133 133
E-bost:
CyswlltCChD@cardiff.gov.uk

Wedi i’r babi gael ei eni

Change Grow Live (Gwasanaeth Lles Emosiynol) — changegrowlive.org

Turn2us — turn2us.org.uk

Cwtch Baby Bank: gall eich ymwelydd gofal iechyd eich cyfeirio — cwtchbabybankwales

Mae Gwasanaethau i Mewn i Waith Cyngor Caerdydd yn rhoi cymorth cyflogaeth a digidol I bobl sy’n chwilio am waith neu’n ceisio uwchsgilio. Cyfleoedd cyflogaeth, gwirfoddoli a phrofiad gwaith gyda’r posibilrwydd o gyllid gofal plant a threuliau teithio eraill.

Pan fyddwch yn teimlo’n barod i gymryd y cam nesaf i gyflogaeth, cysylltwch â’r tîm hwn — intoworkcardiff.co.uk/cy/cysylltwch-a-ni

Cyngor a chymorth ar-lein:

Meic — meiccymru.org

Young Minds — youngminds.org.uk

The Mix — themix.org.uk

Tommys — tommys.org

Kooth —kooth.com

NSPCC — nspcc.org.uk

Barnardos — barnardos.org.uk/what-we-do/supporting-young-people

NHS Direct — nhs.uk/conditions/pregnancy-and-baby/teenager-pregnant

Anna Freud National Centre for Children and Families — annafreud.org/early-years/early-years-in-mind/resources/selfcare-top-tips-for-young-parents-and-carers/

Adborth gan riant ifanc:

“Un o’r pethau mwyaf anodd am ddychwelyd i addysg ar ôl cael fy mhlentyn oedd peidio â gwybod ble i ddod o hyd i wybodaeth ac wedyn poeni am ofal plant (mae’n ddigon drud i deuluoedd dau riant heb sôn am fam ifanc heb fawr ddim incwm). Mewn rhai ffyrdd efallai y byddai wedi teimlo’n haws parhau i fyw ar fudd-daliadau – rwy’n credu y bydd y llyfryn hwn yn ffordd wych o dorri’r cylch hwnnw”.

(Hwylusydd Grŵp Rhianta gyda Rhianta Caerdydd)

Cardiff Commitment logo
NHS Wales logo
Cardiff Council dragon logo