Gall rheoli cyllid teuluol fod yn heriol. Dewch o hyd i gyngor ar gyllidebu, cynilo, gwneud y gorau o’ch arian, a dod o hyd i waith.
Cyngor cyllidebu ac awgrymiadau ar gyfer arbed arian
Ewch i’r wefan Parenting. Give it time. am help, awgrymiadau ymarferol, a chyngor arbenigol ar gyllidebu, arbed a gwneud y gorau o’ch arian.
Gallwch ddod o hyd i flogiau rheolaidd ar bynciau fel:
- Creu cyllideb fisol i dracio incwm a threuliau.
- Sut i flaenoriaethu’r hyn rydych chi’n gwario’ch arian arno.
- Chwilio am ostyngiadau a bargeinion ar bryniannau bob dydd.
- Lleihau costau diangen.
- Arbed.
Y Gwasanaeth Cyngor Ariannol
Gall y Tîm Cyngor Ariannol eich helpu i reoli eich arian a’ch cyllid. Gall eu cynghorwyr eich helpu gyda:
- budd-daliadau a sut i wneud cais,
- cyngor os ydych yn disgwyl neu eisoes yn rhiant,
- cyngor ar ddyled,
- biliau cartref a
- prynu bwyd.
Gallwch gysylltu â nhw drwy’r dulliau canlynol:
- ymweld â’r wefan Cyngor Ariannol,
- ffonio 029 2087 1071,
- e-bostio hybcynghori@caerdydd.gov.uk
- mynd i’ch Hyb lleol.
Help i ddod o hyd i waith
Mae llawer o sefydliadau a all eich helpu i ddod o hyd i waith.
Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith
Gall y Gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith helpu gyda’r canlynol:
Caerdydd ar Waith
Mae Caerdydd ar Waith yn asiantaeth gyflogaeth sy’n cynnig rolau dros dro yng Nghyngor Caerdydd.
Academi Gofalwyr Caerdydd
Mae Academi Gofalwyr Caerdydd yn recriwtio ac yn hyfforddi gweithwyr gofal ar gyfer sector gofal cymdeithasol y ddinas.
Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn wasanaeth cynghori a all eich helpu gyda:
Profiad gwaith, addysg a hyfforddiant
Gallwn eich rhoi ar y trywydd iawn os ydych yn chwilio am brofiad gwaith, addysg neu hyfforddiant.
Mynychu cwrs rhianta
Mae llawer o gyrsiau ar gael i rieni yng Nghaerdydd drwy ein Gwasanaeth Rhianta Caerdydd. Mae rhai o’n grwpiau rhieni yn cynnig achrediadau City and Guilds ochr yn ochr â mynychu cwrs. Cysylltwch â ni i ddysgu mwy.
Gwirfoddoli Caerdydd
Gall Gwirfoddoli Caerdydd eich helpu i ddod o hyd i gyfleoedd, sefydliadau a chymorth gwirfoddoli.
Dysgu Oedolion Caerdydd
Gall Dysgu Oedolion Caerdydd ddarparu cyrsiau sy’n addas ar gyfer pob gallu.
Dechrau’n Deg
Os oes angen gofal plant arnoch i’ch helpu i ddod o hyd i waith neu os oes angen help arnoch tuag at gost gofal plant, darllenwch ein canllaw gofal plant.
Angen mwy o help?
Os nad ydych yn siŵr pa gefnogaeth sy’n iawn i chi a’ch teulu, gall ein cynghorwyr helpu.
Gallwch gysylltu â ni drwy:
- llenwi ffurflen atgyfeirio Cymorth Cynnar,
- dechrau sgwrs we, neu
- ffonio 03000 133 133.