Rhieni a gofalwyr
Gall bod yn rhiant fod yn heriol a gwerth chweil ar yr un pryd.
Mae disgwyl i rieni wybod cymaint o bethau, ac yn aml mae angen ymateb yn gynt i’r pethau mwyaf cymhleth.
Fel rhiant, nid yw’n bosibl cael yr holl atebion bob amser.
Mae Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd yn deall hyn, ac felly byddwn wrth law gyda’r cymorth sydd ei angen arnoch, pan fydd ei angen arnoch.

Cysylltwch â ni
Gallwch chi ein ffonio ar 03000 133 133 a bydd ymgynghorwyr yn gwrando ar eich cwestiynau a cheisio cynnig cyngor a gwybodaeth ddefnyddiol.
Anfonwch e-bost a bydd rhywun yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib CyswlltFAS@caerdydd.gov.uk
Beth Nesaf? Eich Bywyd. Eich Dyfodol.
Gwefan i bobl ifanc, sy’n cynnal darpariaeth a chyfleoedd sydd ar gael yng Nghaerdydd.
Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i berson ifanc 16-24 oed?
Trwy ddefnyddio ‘Beth Nesaf?’, gallwch ei helpu i archwilio eu hopsiynau i mewn i’r gwaith a theimlo’n fwy hyderus am ei ddyfodol. Mae’r llwyfan ‘Beth Nesaf?’ yn rhestru amrywiaeth cyffrous o gyfleoedd I helpu pobl ifanc ddechrau ar yrfaoedd boddhaus:
- Addysg
- Prentisiaethau
- Hyfforddiant
- Gwirfoddoli
I gael gwybod mwy, ewch I www.caerdydd.gov.uk/bethnesaf

Cyngor a chymorth arall:
Cefnogir Tai Caerdydd gan Gyngor Caerdydd a Chymdeithasau Tai Caerdydd, Cadwyn, Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd, Hafod, Linc, Newydd, Cymdeithas Tai Taf, Unedig Cymru a Thai Wales & West. Mae’r wefan yn cynnig gwybodaeth am lety rhent a fforddiadwy yng Nghaerdydd, gan gynnwys Rhestr Aros Tai Caerdydd, Cynlluniau Perchnogaeth Cartref â Chymorth a Llety Rhent Preifat. Mae’n ceisio helpu’r rheini sy’n edrych am dŷ i wneud gwahaniaeth am yr opsiwn mwyaf addas iddyn nhw.
Help gyda rheoli eich arian a’ch dyledion.
Gall delio â materion ariannol beri dryswch, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisi’n gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu’ch cael eich i ddyled.
Os ydych yn cael trafferth i reoli eich arian, gallwn gynnig help a chefnogaeth mewn nifer o feysydd fel cyllidebu, cynyddu incwm a rheoli dyledion.
Mae hybiau’n cynnig nifer o wasanaethau dan un to o gyngor, budd-daliadau a thai yn ogystal â digwyddiadau, hyfforddiant a mynediad i’r rhyngrwyd.
Gwneud cais am le ysgol, dyddiadau tymor ysgol, dalgylchoedd, sut i gysylltu ag ysgol ac cefnogaeth Anghenion Addysg Arbennig.
Addysg Cyfrwng Cymraeg
Waeth beth yw eich iaith yn y cartref, gall Addysg Cyfrwng Cymraeg roi cyfleoedd, profiadau a sgiliau ychwanegol i’ch plant.
Dyma rai cwestiynau cyffredin a allai eich helpu chi i benderfynu a hoffech chi fanteisio ar yr hyn y mae Addysg Cyfrwng Cymraeg yn ei gynnig.
Mudiad Meithrin
Mudiad gwirfoddol sy’n arbenigo ym maes gofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw Mudiad Meithrin. Ein nod yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar trwy gyfrwng y Gymraeg.
Cymraeg I Blant
Gyda dros 65,000 o blant mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yng Nghymru, pam mae rhieni yn ystyried y Gymraeg yn bwysig i’w plant?