Gwasanaeth Rhieni a Mwy a Gwasanaeth Rhieni yn Gyntaf a Arweinir gan Seicoleg
Pam gallai fy ymddygiad fynd yn fwy ‘heriol’ mewn cyfnod ansicr
Beth gallech chi fy ngweld i’n wneud?
Methu â thawelu i gysgu a/neu ddeffro mwy.
Arddangos ymddygiad ‘babïaidd’ iau na’m oedran.
Crïo a strancio yn aml neu fynd yn fewnblyg.
Ceisio cael dy sylw drwy unrhyw ffordd bosibl.
Dal gafael arnat ti fwy ac angen arna I i ti fy nghario a’m dal yn fwy.
Pam mae hyn yn digwydd?
Fe fydda i’n sylwi ar sut mae’r oedolion o’m cwmpas yn teimlo yn ogystal â’r newidiadau yn fy nhrefn arferol.
Mae poeni yn sbarduno fy ‘system ymlynu’.
Mae hyn yn awtomatig ac nid yw’n rhywbeth y gallaf i ei reoli.
Mae’n ‘dweud’ wrtha i glosio atat ti cyn gynted ag y gallaf i er mwyn teimlo’n ddiogel a chael fy amddiffyn.
Byddaf yn parhau i geisio cyswllt a chysur mewn unrhyw ffordd y gallaf (mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol) nes caiff fy angen ei ateb.
Gall hyn beri straen a blinder i ti ond nid yw’n bwrpasol nac yn fwriadol. Dydw i ddim yn gallu meddwl am dy deimladau di eto
Ffyrdd i’m helpu
Trefn: Bydd trefn ragweladwy yn fy helpu i deimlo’n saff a sicr.
Chwarae gyda fi: chwarae yw’r ffordd arferol i mi ymdopi â straen a gwneud synnwyr o bethau sy’n digwydd o’m cwmpas. Bydd dod i lawr at y llawr yn helpu i leddfu straen fy nal.
Rhyngweithio gyda fi: bydd sgwrsio, darllen a chanu yn fy niddori ac yn fy nhawelu i.
Bydd cyffyrddiad yn fy nhawelu ac yn fy nghysuro.
Siarad â mi: rho esboniadau syml i mi a dweud ar goedd beth rwyt ti’n meddwl rydw i’n ei deimlo e.e. “Dw i’n meddwl dy fod ti’n drist am dy fod yn gweld eisiau dy nani”.
Ail-fframio: Meddylia am fy ymddygiad fel ‘ceisio ymlynu’ yn hytrach na ‘cheisio sylw’.
Edrychwch ar ôl dy hun – fel y galli di edrych ar fy ôl innau yn well.
Crëwyd gan Seicolegwyr Addysg Gwasanaeth Rhianta Caerdydd
Am ragor o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Borth i Deuluoedd Caerdydd:
Ffôn: 03000 133 133
E-bost: CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk
Ar-lein: www.cardifffamilies.co.uk/cy/