Gwasanaeth a Arweinir gan Seicoleg Rhieni a Mwy a Rhieni’n Gyntaf
Helpu plant gyda’u hymddygiad: Cysylltu a Chywiro
Dwy Law Gofalu: Cysylltu a Chywiro
Mae ‘dwy law’ gofalu yn helpu plant i ffynnu.
Cysylltu yw’r llaw gyntaf – y perthnasoedd rydym yn eu meithrin â phlant drwy ryngweithio cynnes a chariadus, profiadau sy’n briodol i blant a chwarae.
Cywiro yw’r ail law – y goruchwylio, y strwythur a’r ffiniau y mae eu hangen i blant deimlo’n ddiogel.
SAILING THE SEVEN SEAS:
Using Connection & Correction to Respond to Children’s Behaviour (Dr Nicola Canale, 2020)
Yn ogystal â defnyddio dwy law gofalu mewn ffordd barhaus, gallwn hefyd ddefnyddio cysylltu a chywiro ‘yn y foment’ wrth ymateb i ymddygiad plant. Yn ogystal â’n helpu i ymateb i’r ymddygiad, bydd y dull hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau hunanreoli’r plant fel eu bod yn gallu arddangos ymddygiad cadarnhaol yn well yn y dyfodol. Dyma 7 cam i helpu gyda hyn:
- Asesu: A oes angen i chi ymyrryd er diogelwch neu a allwch chi anwybyddu’r ymddygiad a/neu dynnu sylw’r plentyn?
- Peidio â chynhyrfu: Arhoswch cyn ymateb.
- Tawelu eich plentyn: Os yw emosiynau mawr yn ormod i’ch plentyn, tawelwch ei feddwl a’i helpu i ymlonyddu eto.
- Chwilfrydedd: Ceisiwch feddwl am ba deimladau sydd wrth wraidd yr ymddygiad. Er enghraifft, ystyriwch a oes eisiau bwyd ar y plentyn, a yw’n ddig, yn unig (angen cysylltiad) neu wedi blino?
- Cysylltu: Cysylltwch y teimlad â’r ymddygiad gan ei enwi ar goedd e.e. ‘Dw i’n meddwl dy fod ti’n teimlo’n ddig achos na alli di wneud y pôs. Gad i mi dy helpu di’. Bydd hyn yn gadael i’ch plentyn wybod eich bod yn ceisio ei ddeall a’i helpu i dawelu.
- Cywiro: Byddwch yn gadarn ac yn gyson ynghylch y ffiniau rydych chi wedi’u gosod. Rhowch ganlyniad sy’n addas i oedran y plentyn os oes angen. Mae dewisiadau a chanlyniadau naturiol yn gweithio’n dda gyda phlant iau e.e., ‘Gwisga dy welis neu awn ni ddim i’r parc – ti sy’n dewis’.
- (Ail)Gysylltu: Adferwch y berthynas drwy roi cwtsh neu eiriau caredig a symud ymlaen.
Crëwyd gan Seicolegwyr Addysg yng Ngwasanaeth Rhianta Caerdydd
Am fwy o wybodaeth, cyngor neu gymorth, cysylltwch â Phorth Teulu Caerdydd:
Ffôn: 03000 133 133
e-bost: CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk
ar-lein: www.cardifffamilies.co.uk/cy/