AMDANOCH CHI
Beth allech chi fod yn ei deimlo?
- Efallai y byddwch yn mynd yn fwy pigog nag arfer a gall eich hwyliau newid yn ddramatig. Efallai eich bod yn arbennig o bryderus neu nerfus neu’n isel eich ysbryd.
- Efallai eich bod yn cael atgofion mynych a byw o’ch profiadau. Gall y fflachiadau hyn yn ôl arwain at adweithiau corfforol fel curiad calon cyflym neu chwysu.
- Efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio neu wneud penderfyniadau, neu efalla eich bod yn mynd yn fwy dryslyd. Efallai y bydd tarfu ar eich patrymau cysgu a bwyta hefyd.
Gall yr holl bethau hyn effeithio ar sut rydych chi’n cyd-dynnu â’r plentyn neu’r plant rydych chi’n gofalu amdanyn nhw.
Beth allwch chi ei wneud i helpu’ch hun?
- Cydnabyddwch fod hwn yn gyfnod heriol ond yn un y gallwch weithio i’w reoli. Rydych chi wedi mynd i’r afael â chyfnodau anodd eraill yn eich bywyd.
- Cydnabyddwch eich bod yn berson unigryw. Defnyddiwch y sgiliau a’r adnoddau sydd gennych.
- Gadewch i chi a’ch plant alaru unrhyw golledion y gallech fod wedi’u cael.
- Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda newidiadau yn y ffordd rydych chi’n teimlo.
- Ceisiwch gadw’n obeithiol ac yn gadarnhaol. Bydd hyn yn helpu eich plant i fod â gobaith ar gyfer y dyfodol.
- Cefnogwch ei gilydd a derbyniwch help gan ffrindiau, perthnasau, arweinwyr cymunedol a chrefyddol.
- Gofalwch amdanoch eich hun cymaint â phosibl a cheisiwch orffwys pan allwch chi.
- Gymaint ag y gallwch, ceisiwch sefydlu neu ailsefydlu trefniadau arferol, megis amser gwely rheolaidd.
- Ceisiwch eich cadw eich hun yn brysur gyda thasgau rheolaidd neu gyda gwaith neu weithgareddau gyda phobl eraill o’ch cwmpas.
- Cynhaliwch unrhyw weithgareddau crefyddol rydych chi’n eu gwneud.
YNGLŶN Â’CH PLANT
Beth allai eich plant fod yn ei deimlo?
Gall y ffordd y mae plant yn ymateb i brofiadau sy’n achosi straen amrywio, yn dibynnu ar amrywiaeth o bethau, er enghraifft eu hoedran, ond dyma rai ffyrdd cyffredin y mae plant yn ymateb:
- Cwynion corfforol fel pen tost, poen stumog, twymyn, peswch, diffyg archwaeth at fwyd.
- Bod yn ofnus ac yn bryderus.
- Anhawster cysgu, hunllefau, ofnau nos, gweiddi neu sgrechian.
- Gall plant hŷn ddechrau ngwlychu’r gwely eto, glynu wrth eu rhieni, crio’n aml, sugno bodiau, ofn cael eu gadael ar eu pennau’u hunain.
- Dod yn anarferol o weithgar neu ymosodol, neu’r gwrthwyneb, yn swil, yn dawel, yn tynnu’n ôl ac yn drist.
- Anawsterau canolbwyntio
Mae’n bwysig cofio ei bod hi’n NORMAL i blant ddangos adweithiau straen neu ymddygiadau problemus ar ôl profiadau brawychus a gofidus.
Beth allwch chi ei wneud i helpu’ch plant?
DIOGELWCH
- Ymdrechwch i gadw’ch teulu gyda’ch gilydd bob amser.
- Ceisiwch yn galed beidio â chael eich gwahanu oddi wrth eich plant am gyfnodau hir.
- Sicrhewch fod eich plant yn gwybod eu henw, ble rydych chi’n aros a sut i gael help os ydynt wedi’u gwahanu oddi wrthych.
- Os ydych yn mynd i safle dosbarthu naill ai cadwch eich plant yn agos bob amser neu eu gadael gartref yng ngofal perthynas neu oedolyn cyfrifol y gellir ymddiried ynddo.
- Os bydd eich plant yn mynd gyda chi, trefnwch rywle ymlaen llaw lle gallwch gwrdd os byddwch yn cael eich gwahanu. Sicrhewch fod hyn yn rhywle y bydd y plant yn ei adnabod ac yn teimlo’n gyfforddus ynddo.
- Os bydd eich plant yn mynd allan i chwarae, dywedwch wrthyn nhw am roi gwybod i chi ble mae’n mynd a phryd y byddan nhw yn ôl.
BOD YN GYNNES AC YN GEFNOGOL
- Addawch y byddwch yn gwneud popeth o fewn eich gallu i ofalu amdanynt a’u diogelu.
- Ceisiwch fod yn annwyl gyda’ch plant drwy roi cwtsh iddyn nhw’n aml neu ddal eu llaw.
- Ceisiwch ddweud wrthyn nhw’n aml eich bod chi’n eu caru nhw. Bydd bod yn ofalgar a dweud wrth eich plant eich bod yn eu caru yn tawelu eu meddyliau.
CANMOL
- Chwiliwch am gyfleoedd i ganmol eich plant pan fyddan nhw wedi gwneud rhywbeth da, waeth pa mor fach y mae’n ymddangos.
- Ceisiwch fod yn amyneddgar gyda’ch plant a pheidio â’u beirniadu am newidiadau mewn ymddygiad, fel glynu wrthych neu geisio sicrwydd yn aml.
- Anogwch eich plant i helpu, a chanmol a diolch pan fyddan nhw’n gwneud hynny. Mae plant yn ymdopi’n well ac yn gwella’n gynt pan fyddant yn helpu eraill.
TREULIO AMSER GYDA’CH GILYDD A SIARAD
- Rhowch sylw i’ch plant. Treuliwch ychydig funudau gyda nhw pryd bynnag y gallwch chi.
- Treuliwch amser yn gwrando arnyn nhw a cheisio deall yr hyn maen nhw wedi’i brofi. Gofynnwch sut maen nhw’n teimlo am eu profiadau a pha brofiadau sy’n peri’r straen mwyaf ac yn anodd addasu iddyn nhw.
- Peidiwch ag addo pethau na allwch eu rhoi i’ch plant.
- Byddwch yn agored a cheisiwch roi gwybodaeth gywir i blant am yr hyn sy’n digwydd.
ANNOG CHWARAE
- Anogwch eich plant i chwarae gyda chi, eu brodyr a’u chwiorydd neu blant eraill. Mae chwarae’n bwysig o ran helpu plant i weithio drwy straen a phrofiadau yn y gorffennol a’r presennol ac i baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae’n helpu i gynnal rhywfaint o normalrwydd yn eu bywydau.
CYNNAL TREFN ARFEROL
- Ceisiwch gynnal trefn ddyddiol, fel amser gwely, cymaint ag y gallwch.
- Anogwch y plant i wneud gwaith ysgol (darllen, mathemateg, ysgrifennu), hyd yn oed os nad oes ysgol.