Gwasanaeth Rhieni a Mwy a Gwasanaeth Rhieni yn Gyntaf a Arweinir gan Seicoleg
Gweld y byd trwy lygaid babis: Gan ddefnyddio chwilfrydedd, cysur a chysylltiad i fy helpu i dyfu
Fy 1001 diwrnod cyntaf
Mae fy 1001 diwrnod cyntaf yn cychwyn cyn i fi gael fy ngeni ac yn parhau tan fy ail ben-blwydd. Mae hwn yn gyfnod pwysig iawn i fi gan fod fy ymennydd a fy nghorff yn datblygu’n gyflym. Fel yr un sy’n gofalu amdana i, rydych chi’n chwarae rhan bwysig iawn yn fy natblygiad yn ystod y cyfnod hwn ac yn helpu i osod sylfaen gadarn ar gyfer fy iechyd yn y dyfodol, fy natblygiad a fy lles.
Gweld y Byd Drwy fy Llygaid i:
- Cefais fy ngeni’n barod i gysylltu a chyfathrebu gyda chi.
- Dwi’n gallu cael llawer o wahanol emosiynau y mae angen help arna i i wneud synnwyr ohonyn nhw.
- Mae’r ffordd rydych chi’n ymateb i fi ac yn ymwneud â fi’n cael effaith fawr ar ddatblygiad fy ymennydd a fy nghorff.
- Mae’r rhyngweithio cynnes a chariadus rhyngoch chi a fi yn fy helpu i deimlo’n saff, yn ddiogel ac yn llawen.
- Po fwyaf diogel, sicr a llawen mae’r byd yn ei deimlo i fi, y cyfle gorau sydd gen i o ddatblygu i fy llawn botensial.
FI YW’R LLAWLYFR
“Does dim angen Llawlyfr i fy neall i: Gwyliwch a darllenwch yr arwyddion rwy’n eu rhoi a byddwch yn gweld cystal y galla i ddangos beth rwy’n ei deimlo a beth sydd ei angen arnaf”
Brazelton, 2020
Bydd cadw’r canlynol mewn cof yn fy helpu i dyfu:
Chwilfrydedd – Rhowch amser i wir wylio a rhyfeddu at yr hyn rwy’n ei wneud, sut gallwn i fod yn teimlo , neu beth gallen i fod yn ceisio’i gyfleu? Bydd hyn yn rhoi cliwiau ichi o ran yr hyn sydd arna i ei angen oddi wrthoch chi.
Cysur – cysurwch fi pan fydda i’n anniddig. Bydd gwneud hyn yn fy nhawelu i ac yn rhoi gwybod i fi y galla i ymddiried yn yr oedolion sydd o ’nghwmpas i helpu i wneud i fi deimlo’n well. Bydd hefyd yn fy helpu i ddatblygu’r sgiliau i ddeall a rheoli fy nheimladau fy hun wrth i mi dyfu’n hŷn.
Cysylltiad – Chwaraewch a chwarddwch gyda fi. Efallai y byddwch chi’n sylwi fy mod yn cyfathrebu â chi drwy fy symudiadau, synau ac ystumiau wyneb. Mae’ch gweld chi’n ymateb i’r cliwiau hyn yn fy nghyffroi i. Weithiau bydd angen seibiant bach arna i yn ystod ein rhyngweithio ac efallai y bydda i’n dangos hyn drwy edrych i ffwrdd. Os gwyliwch chi fi’n ofalus, bydda i’n dangos i chi pan fydda i’n barod i gael hwyl a chysylltu â chi eto.
Crëwyd gan Seicolegwyr Addysg Gwasanaeth Rhianta Caerdydd
Am ragor o wybodaeth neu gymorth cysylltwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Borth i Deuluoedd Caerdydd:
Ffôn: 03000 133 133
E-bost: CyswlltFAS@Caerdydd.gov.uk
Ar-lein: www.cardifffamilies.co.uk/cy/
Diolch i: www.brazelton.co.uk