Cardiff parenting logo

Gall bod yn rhiant fod yn foddhaus ac yn heriol.

Gallwn eich helpu gyda rhai o’r heriau bob dydd y byddwch chi’n eu hwynebu fel rhiant.

Awgrymiadau ar greu perthnasoedd teuluol hapus ac iach.
Child hiding behind their hands

Deall ymddygiad eich plentyn

Mae ymddygiad plant yn aml yn adlewyrchu eu teimladau a’u hanghenion. Dyma rai ffyrdd o ymateb yn gadarnhaol:

  • Gall fod yn heriol, ond hefyd yn ddefnyddiol myfyrio ar sut y cawsoch chi eich rhianta a sut y gallai hyn ddylanwadu ar y ffordd rydych chi’n rhianta eich plant.
  • Ceisiwch bennu rheolau cyson a ffiniau cadarn ond teg i helpu’ch plentyn i deimlo’n ddiogel. Gall hyn eich helpu i reoli ei ymddygiad.
  • Allwch chi ddeall sut y gallai eich plentyn fod yn teimlo? Gallai ei ymddygiad gael ei achosi gan angen nad yw’n cael ei ddiwallu. Efallai ei fod yn flinedig, yn llwglyd neu’n teimlo ei fod yn cael ei anwybyddu.
  • Gwrandewch ar yr hyn y mae eich plentyn yn ceisio ei ddweud wrthych. Nid gyda geiriau yn unig, ond drwy ei weithredoedd ac iaith y corff hefyd.
  • Dangoswch i’ch plentyn faint rydych chi’n ei werthfawrogi trwy dreulio amser gwerthfawr gyda’ch gilydd.
  • Rhowch ganmoliaeth i’ch plentyn am yr ymddygiad rydych chi wrth eich bodd yn ei weld. Mae derbyn canmoliaeth yn gwneud i ni deimlo’n dda ac yn ein cymell i ailadrodd beth bynnag a greodd y teimladau da hynny.

Mae yna adnoddau gwych ar gael sy’n llawn awgrymiadau a chyngor:

Teen boy playing a computer game with dad

Perthnasoedd teuluol iach

Gallwch feithrin perthnasoedd teuluol iach trwy dreulio amser gwerthfawr gyda’ch gilydd. Does dim angen gwario llawer o arian. Dyma rai syniadau ar gyfer hwyl rad neu am ddim:

  • Basgedi trysor a chwarae gyda sbwriel
    Defnyddiwch eich dychymyg a gweld beth allwch chi ei greu neu ei wneud gyda phethau fel bocsys gwag a photeli plastig.
  • Cuddfan soffa
    Defnyddiwch ddodrefn a blancedi i greu lleoedd clyd i guddio, chwarae neu fwyta byrbryd.
  • Chwarae gyda dŵr
    Mae hyn yn cynnwys pethau syml fel llenwi ac arllwys cwpanau, sblasio yn y bath, neu mae hyd yn oed golchi’r llestri yn gallu helpu gyda datblygiad plant.
  • Gemau bwrdd
    Dod â’r teulu at ei gilydd a chryfhau bondiau wrth roi hwb i sgiliau pwysig. Mae gemau bwrdd yn annog cymryd tro, amynedd, datrys problemau, rhifedd, meddwl strategol a sgiliau cymdeithasol. Does dim angen setiau drud arnoch. Mae llawer o gemau clasurol yn fforddiadwy neu gallwch ddod o hyd i rai ail-law.
  • Amser sinema gartref
    Diffoddwch y goleuadau, ewch i nôl y popgorn a gwyliwch ffilm deuluol. Gallech hyd yn oed greu tocynnau a dangos gwesteion i’w seddi.
  • Unrhyw beth sy’n annog hwyl a chwerthin

Chwilio am ysbrydoliaeth? Cewch gyngor gwych ar weithgareddau y gallwch eu gwneud gartref fel teulu a’u manteision:

Gall rheoli bywyd fel rhiant weithiau fod yn llethol iawn. Dyma rai awgrymiadau a chyngor ar sut i ofalu amdanoch chi’ch hun. Cofiwch, bydd gofalu amdanoch chi’ch hun o fudd i’r teulu cyfan.
Children and divorce concept. Upset african girl closing ears not to listen parents arguing, sitting on floor at home, feeling lonely.

Adnabod yr arwyddion o straen

Mae arwyddion cyffredin o straen yn cynnwys:

  • Diffyg amynedd
  • Blinder difrifol
  • Gweiddi
  • Teimlo’n ddagreuol
  • Ddim yn cysgu’n dda
  • Teimlo na allwch ymdopi
  • Gorbryder

Gall newidiadau mewn bywyd teuluol fod yn her a chreu straen. Er enghraifft:

  • Symud tŷ
  • Newid ysgol
  • Arholiadau
  • Profedigaeth

Hunanofal i rieni

Cyn i chi allu rheoli teimladau ac ymddygiad eich plentyn yn ddigynnwrf, gall fod yn ddefnyddiol edrych ar sut rydych chi’n teimlo’ch hun.

Pan fyddwch chi’n teimlo dan straen neu’n flinedig mae’n llawer anoddach gofalu am y rhai o’ch cwmpas. Ceisiwch wneud yn siŵr eich bod chi’n diwallu eich anghenion eich hun fel eich bod mewn gwell sefyllfa i ofalu am eraill.

Weithiau gall deimlo fel bod bywyd yn rhy brysur i ofalu amdanoch eich hun, ond gallwch ystyried rhai o’r pethau rydych chi’n eu gwneud yn barod fel ffordd o’ch tretio eich hun. Er enghraifft, cymryd amser i:

  • gael paned o de poeth
  • cael cawod
  • sgwrsio gyda ffrind

Byddwch yn wyliadwrus o symptomau straen a chymerwch ychydig eiliadau i edrych ar ôl eich hun.

Mae hefyd yn bwysig cydnabod ei bod yn gryfder gofyn am help.

Family Lives – Cymorth Rhianta a Chymorth i Deuluoedd

Ewch i wefan Family Lives am gyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol i rieni sy’n wynebu straen, gorbryder a heriau teuluol.

YoungMinds – Cymorth Iechyd Meddwl i Rieni

Archwiliwch adnoddau YoungMinds lle mae canllawiau a llinell gymorth i rieni sydd dan straen wrth gefnogi lles eu plentyn.

NSPCC Learning – Taflenni Gwybodaeth i Rieni

Cymerwch olwg ar adnoddau NSPCC ar strategaethau ymdopi, iechyd meddwl a lles teuluol.

Sut gallwn ni eich helpu chi

Chewch wybod sut y gallwn eich cefnogi yn eich taith rhianta.