Meini Prawf Cymhwysedd

Bwriad y rhaglen hyfforddi yw bodloni gofynion hyfforddiant Staff Cymorth Cynnar Caerdydd yn ogystal â phartneriaid gwaith ehangach sy’n rhan o wasanaethau ymyrraeth gynnar. Manylir isod yr amodau i fynd i unrhyw un o’r cyrsiau yn y rhaglen hyfforddi ynghyd â’r wybodaeth archebu.

Mae’r rhaglen hyfforddi hon ar gael i holl staff Cymorth Cynnar Caerdydd a phartneriaid gwaith Teuluoedd yn Gyntaf. Pan fo lleoedd ychwanegol ar gael, bydd hyfforddiant yn cael ei gynnig i’r holl bartneriaid gweithio ehangach yn fewnol ac yn allanol i Gyngor Caerdydd.

Archebu

  • Rhaid cwblhau’r Ffurflen Archebu Hyfforddiant Staff Datblygu’r Gweithlu yn llawn a’i dychwelyd i DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk Rhaid rhoi’r holl wybodaeth y gofynnir amdani ar y pwynt archebu.
  • Ar ôl cael y ffurflen archebu, bydd Datblygu’r Gweithlu yn e-bostio mynychwyr i gadarnhau a yw eu cais wedi’i gadarnhau, ei wrthod (gyda rheswm am hyn) neu os yw’r cwrs yn llawn, bydd lle yn cael ei gynnig ar y rhestr aros.
  • Bydd Datblygu’r Gweithlu Caerdydd yn cysylltu â’r aelod staff perthnasol os a phan fydd lleoedd ar gael.
  • Cofiwch y gellid gosod cyfyngiadau ar gyfer y niferoedd o archebion sydd ar gael ar gyfer pob tîm fesul cwrs.
  • Bydd mannau yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin, a gall methu â dilyn y broses archebu’n gywir arwain at oedi neu wrthod eich archeb.

Polisi Canslo

  • Yr aelodau staff neu eu rheolwyr llinell sy’n gyfrifol am sicrhau eu bod yn e-bostio DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk gydag o leiaf un wythnos waith o rybudd os nad ydyn nhw’n gallu mynychu cwrs.
  • Gallwn newid yr aelodau staff ar gyrsiau hyd at y diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. Nid yw hyn yn berthnasol i gyrsiau lle mae gofyn cwblhau gwaith cyn y cwrs cyn mynychu.
  • Gallwch newid eich archeb i gwrs hwyrach os yw ar gael, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod o leiaf un wythnos waith cyn i’r cwrs ddechrau. I drosglwyddo archeb cysylltwch â DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
  • Mae Datblygu’r Gweithlu a’u partneriaid hyfforddi yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i fynychwyr lle na ddilynwyd y broses archebu gywir ac na ddaeth e-byst cadarnhau i law.

Cod Ymddygiad i Ddysgwyr

  • Bydd angen gwneud cais am bob cwrs drwy gwblhau’r Ffurflen Archebu Hyfforddiant Staff Datblygu’r Gweithlu yn llawn a dychwelyd hon i DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
  • Caiff pob hyfforddiant ei werthuso ac, os bydd angen, bydd Tîm Datblygu’r Gweithlu’n ymchwilio i unrhyw bryderon ac ymholiadau. Eich cyfrifoldeb chi yw llenwi’r ffurflen gwerthuso a rhoi adborth gonest.
  • Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant bydd disgwyl i’r cyfranogwyr roi adborth i’w rheolwr llinell ac, os bydd angen, ddosbarthu gwybodaeth i aelodau eraill y tîm hefyd.
  • Cyfrifoldeb POB aelod o staff yw sicrhau bod Tîm Datblygu’r Gweithlu’n cael ei hysbysu o newidiadau i wybodaeth cyswllt gan gynnwys cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn symudol.
  • Bydd Tîm Datblygu’r Gweithlu’n hysbysu rheolwyr llinell os nad yw unigolion yn bresennol mewn digwyddiadau hyfforddi. Cyfrifoldeb y rheolwr yw sicrhau yr eir i’r afael â hyn yn ffurfiol gyda’r aelod staff a rhoi rheswm i Ddatblygu’r Gweithlu fel y gellir ei dracio at ddibenion adrodd.
  • Ar gyfer achosion o fethu mynychu dro ar ôl tro, mae Datblygu’r Gweithlu yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw geisiadau archebu yn y dyfodol.
  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych le wedi’i gadarnhau cyn mynychu cwrs, bydd methu gwneud hyn yn golygu y byddwch yn cael eich gwrthod.
  • Bydd angen i unrhyw geisiadau i fynd i hyfforddiant y tu allan i oriau gwaith arferol gael eu cytuno â rheolwyr llinell cyn cadw lle.
  • Ar gyfer cyrsiau hyfforddi ar-lein, cyfrifoldeb y cyfranogwr yw sicrhau bod ganddo offer TGCh priodol a’i fod yn gyfforddus yn defnyddio meddalwedd hyfforddi TGCh fel Zoom a Microsoft Teams cyn cadw lleoedd ar y cyrsiau. Ni all Datblygu’r Gweithlu gynnig cymorth TGCh ar y diwrnod.
  • Cyfrifoldeb y mynychwr yw sicrhau ei fod wedi derbyn dolenni ymuno ac unrhyw daflenni cyn y cwrs. Os na dderbyniwyd y dolenni, cyfrifoldeb y cyfranogwr yw cysylltu â datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk y diwrnod cynt fan bellaf i roi amser i Ddatblygu’r Gweithlu fynd ar drywydd hyn ac ail-anfon y dolenni mewn digon o amser.