Datblygu’r Gweithlu Caerdydd
Mae’r Ganolfan Datblygu Gweithlu ac Achrededig yn darparu ystod o gyrsiau hyfforddi ar gyfer yr holl staff gofal plant yng Nghaerdydd.
Dyma’r tîm i gysylltu ag ef os:
- Rydych chi’n ystyried dod yn ddarparwr gofal plant.
- Rydych chi’n ddarparwr gofal plant presennol a hoffech chi ddarganfod pa hyfforddiant sydd ar gael a phryd
- Hoffech chi dynnu sylw at eich anghenion hyfforddi (trwy’r Dadansoddiad Anghenion Hyfforddi)
Mae’r Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Cymorth Cynnar yn rhan o Gyngor Caerdydd, sydd y Rheolwr Data at ddibenion y data a gesglir. Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae ein sefydliad yn defnyddio’r data personol a gasglwn gennych pan fyddwch yn defnyddio ein gwefan neu wasanaeth.
Pwrpas casglu’r data hwn yw i Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd drefnu lle i chi ar gyrsiau hyfforddiant y gofynnir amdanynt. Fel y gall Canolfan Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd a phartneriaid anfon gwybodaeth a cheisiadau perthnasol sy’n ymwneud â hyfforddiant. Byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth i roi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’n rhaglen hyfforddiant gan gynnwys cyrsiau hyfforddiant sydd newydd eu trefnu a chyrsiau sydd ar y gweill gydag argaeledd. Byddwn hefyd yn cadw cofnod o’ch manylion i’w defnyddio yn ein hadroddiadau.
Pa ddata rydym yn ei gasglu?
Mae’r Cyngor yn prosesu data personol yn ddyddiol. Rydym yn cadw gwybodaeth benodol amdanoch chi, sef data personol. Rydym wedi ein cofrestru gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a bydd unrhyw wybodaeth sydd gennym yn cael ei phrosesu’n unol â’r egwyddorion a nodir yn Rheoliadau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw.
Byddwn yn:
- Parhau i gryfhau ein prosesau ar gyfer cynnal preifatrwydd yr holl wybodaeth sydd gennym.
- Gofyn i’n holl gyflogeion gydymffurfio’n llawn â chyfraith Diogelu Data.
- Cadw cyn lleied o wybodaeth bersonol ag sydd ei hangen i’n galluogi i gyflawni ein rôl fel Cyngor.
- Dileu gwybodaeth bersonol pan fydd yr angen i’w chadw wedi mynd heibio.
- Cyrchu a phrosesu’r holl wybodaeth bersonol yn unol â phrosesu teg a gaiff ei nodi pan gesglir gwybodaeth gan Unigolion.
- Cynllunio ein systemau a’n prosesau er mwyn cydymffurfio ag egwyddorion diogelu data.
- Cymryd camau gweithredu ar unwaith pe byddem yn darganfod na chydymffurfir â’n polisïau.
- Mae’r hysbysiad hwn wedi’i greu i roi gwybodaeth i chi am y data sydd gennym amdanoch, sut rydym yn ei ddefnyddio, eich hawliau mewn perthynas â’ch data a’r mesurau diogelwch sydd ar waith i’w ddiogelu.
Mae Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd yn casglu’r data canlynol:
- Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad gweithle, teitl swydd, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
- Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.
Sut rydym yn casglu eich data?
- Mae Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd yn casglu data a phrosesu data gan ddefnyddio ffurflenni Microsoft neu ffurflenni archebu sy’n cael eu hanfon i mewn drwy e-bost. Bydd y data sy’n cael eu casglu drwy’r ffurflenni hyn yn cael ei ddefnyddio gan Ganolfan Datblygu ac Achredu’r Gweithlu Caerdydd a phartneriaid.
Sut byddwn yn defnyddio eich data?
Efallai y byddwn yn prosesu eich data personol i gyflawni ein rhwymedigaethau, a gall hyn gynnwys prosesu eich data personol at y cyfan neu unrhyw un o’r dibenion canlynol:
- I gysylltu â chi.
- I gadw lle i chi ar unrhyw gyrsiau hyfforddiant rydych chi/eich rheolwr wedi gofyn i chi eu mynychu
- At ddibenion ystadegol a chyfeirio.
- I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
- Mynd i’r afael ag ymholiadau gennych chi ac ymateb i unrhyw anghydfod gwirioneddol neu bosibl sy’n ymwneud â chi.
- Prosesu eich cais a rheoli eich cyfrif.
- E-bostio i gysylltu â chi pan fydd hyfforddiant ar gael.
Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?
O bryd i’w gilydd byddwn yn rhannu eich data personol gyda sefydliadau partner a darparwyr gwasanaeth fel y gallant ein helpu i gynnal ein dyletswyddau, hawliau a disgresiynau mewn perthynas â’r gwasanaethau a ddarparwn. Bydd rhai o’r sefydliadau hynny’n prosesu eich data personol ar ein rhan ac yn unol â’n cyfarwyddiadau. Ym mhob achos, byddwn ond yn rhannu data i’r graddau y credwn fod angen y wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.
Caiff unrhyw Wybodaeth Bersonol sydd gennym ond ei datgelu, gyda diben rhesymol, i:
- Ein staff – pan fydd y wybodaeth yn hanfodol ac yn ofynnol ar gyfer eu gwaith.
- Y Llysoedd – o dan gyfarwyddyd Gorchymyn Llys.
- Ein partneriaid – yn unol â’r weithdrefn a gytunwyd yn unig.
- Eraill – fel y rhestrir yng nghofrestriad Diogelu Data’r Cyngor. Os nad ydych am i ni gysylltu â chi mwyach, anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
O dan Ddeddf Economi Ddigidol 2017, caiff y Cyngor rannu data personol a roddwyd i ni gyda Chynghorau eraill at ddibenion canfod/atal twyll neu droseddau, er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac ar gyfer ymchwil ystadegol. Mae gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd i amddiffyn y gronfa gyhoeddus mae’n ei rheoli. Felly, mae’n bosibl y caiff y wybodaeth rydych chi wedi ei rhoi i ni ei defnyddio i atal a chanfod twyll neu ei rhannu gyda Swyddogion y Cyngor sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu cronfeydd cyhoeddus.
Os oes cais neu os credwn fod ei angen yn rhesymol, gallwn o bosibl roi eich data i gyrff llywodraethu a sefydliadau datrys anghydfodau a gorfodi’r gyfraith, gan gynnwys y rhai a restrir uchod, y Rheoleiddiwr Pensiynau, yr Ombwdsmon Pensiynau a Chyllid a Thollau ei Mawrhydi (CThEM). Gallent o bosibl ddefnyddio’r data i gyflawni eu swyddogaethau cyfreithiol.
Mewn rhai achosion, gall y derbynwyr hyn fod y tu allan i’r DU. Golyga hyn y gall eich data personol gael ei drosglwyddo i’r tu allan i’r AEE i awdurdodaeth nad yw o bosibl yn cynnig lefel gyfwerth o ddiogelwch fel sy’n ofynnol yng ngwledydd yr AEE. Os digwydd hyn, gwnawn yn siŵr fod camau diogelu priodol mewn lle i ddiogelu eich data yn unol â’r cyfreithiau perthnasol. Defnyddiwch y manylion cyswllt isod os hoffech gael ragor o wybodaeth am y camau diogelu sydd ar waith ar hyn o bryd.
Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol?
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.
Mae mwy o fanylion i’w gweld ar yAmserlen gadw’r cyngor Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Beth yw eich hawliau diogelu data?
Hoffai Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn llwyr ymwybodol o bob un o’ch hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
- Mae gennych hawl i gael mynediad at eich data a chael copi o’r data personol sydd gan y Cyngor amdanoch a gofyn i’r Awdurdod gywiro eich data personol os oes camgymeriadau neu wybodaeth sy’n hen. Mewn rhai amgylchiadau, cewch hefyd ofyn i’r Cyngor gyfyngu ar brosesu eich data personol tan fod unrhyw gamgymeriadau’n cael eu gwirio, gwrthwynebu prosesu neu drosglwyddo neu (mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn) ofyn i ni ddileu eich data personol.
- Os hoffech chi arfer unrhyw un o’r hawliau hyn neu os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon yn gysylltiedig â phrosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data fel y nodir isod. Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â’r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu’r Cyngor gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy’r wefan isod neu eu llinell gymorth.
- Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd neu drwy ei llinell gymorth 0303 123 1113.
Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol
Mae’r Cyngor yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei waith fel rheolwr data. Mae hyn yn cynnwys yr angen i brosesu eich data i gysylltu â chi at ddibenion ystadegol a chyfeirio. Mae gwybodaeth bellach am sut rydym yn defnyddio eich data personol isod.
- Yn gyffredinol, ar un o’r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:
- Mae angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau fel yr Awdurdod Lleol yn ogystal ag adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru ar ein hyfforddiant a ariennir gan grant.
- Mae angen i ni brosesu eich data personol er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein rôl fel corff cyhoeddus; [a/neu] oherwydd bod angen i ni brosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cytundebol i chi mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiant hanfodol gwrthrych y data neu berson naturiol arall.
Diweddaru’r hysbysiad hwn
Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro. Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw’r newidiadau i rym.
Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk Dolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd.
- Mae Datblygu’r Gweithlu Cymorth Cynnar Caerdydd yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd.
- Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 09.08.2022
Meini Prawf Cymhwysedd
Mae’r rhaglen hyfforddi wedi ei llunio i fodloni’r gofynion ar gyfer y Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Fe’i cynlluniwyd hefyd i gefnogi Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP). Llunir y rhaglen ar sail canlyniadau Dadansoddiad Anghenion Hyfforddiant blynyddol (DAH). Ariennir y rhaglen hon gan Dechrau’n DegCaerdydd. Manylir isod ar yr amodau ar gyfer mynychu unrhyw un o’r cyrsiau yn y rhaglen hyfforddi ynghyd â’r wybodaeth archebu.
Mae’r hyfforddiant hwn ar gael i holl weithwyr gofal plant yn y sector gofal plant nas cynhelir, sy’n gweithio mewn lleoliad yn ardal Caerdydd ar hyn o bryd a gall gynnwys gwirfoddolwyr a darparwyr heb eu cofrestru mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar a gofal plant. Cynghorir i bob lleoliad gofal plant cofrestredig fod yn aelodau o sefydliadau ymbarél gan y byddai hyfforddiant a budd-daliadau eraill ar gael wedyn.
Cyfrifoldeb y Lleoliad Gofal Plant
- Rhaid i’r rheolwr llinell a bennwyd i archebu’r lleoedd hyfforddi sicrhau ei fod ond yn archebu lle ar gyfer staff a ddyrennir i’w lleoliad gofal plant nhw.
- Rhaid i’r rhai sy’n mynychu gadw at ein Cod Ymddygiad. Gall methu â gwneud hynny efallai olygu na chaiff yr unigolyn fynychu cyrsiau yn y dyfodol.
- Mae’n bosib y bydd cyrsiau hyfforddi yn cael eu hychwanegu at y rhaglen gydol y flwyddyn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar yr holl ohebiaeth gan Ddatblygu’r Gweithlu Caerdydd yn rheolaidd i gael manylion a diweddariadau. Gallwch ofyn am gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio trwy anfon e-bost atom yn DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
- Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw egluro’r broses hyfforddi i’w staff. Rhaid i reolwyr sy’n cyflenwi cyfeiriadau e-bost eu staff a/neu rifau ffôn symudol sicrhau bod staff yn ymwybodol o’r rhesymau dros hyn a chytuno i’w data gael ei ddefnyddio gan Gyngor Caerdydd. Gallwch ddarllen ein polisi preifatrwydd yma: https://cardifffamilies.co.uk/cy/hysbysiad-preifatrwydd-canolfan-datblygu-ac-achredur-gweithlu-cymorth-cynnar-caerdydd/
- Sicrhewch fod y manylion a ddarperir yn gywir ac yn gyfredol, anfonir pob gohebiaeth drwy e-bost i’r cyfeiriad e-bost a ddarperir wrth archebu.
- Os oes angen i chi amnewid mynychwr ar gwrs, rhaid cwblhau hyn o fewn 24 awr cyn dyddiad ac amser cychwyn y cwrs. Gall rheolwyr llinell amnewid aelodau staff ar gwrs drwy gysylltu â Datblygu’r Gweithlu Caerdydd. Gallai methu ag amnewid aelodau staff cyn cwrs arwain at wrthod mynediad i’n safle a hefyd i’r cwrs hyfforddi.
- Gwrthodir mynediad ar ddechrau’r hyfforddiant i unigolion nad ydynt ar y rhestr bresenoldeb.
- Cyfrifoldeb y mynychwr yw darllen a deall y canllawiau Iechyd a Diogelwch yn llawn yn yr ystafelloedd hyfforddi.
- Cyfrifoldeb y rheolwr llinell yw rhoi gwybod i Ddatblygu’r Gweithlu Caerdydd cyn i’r cwrs gael ei gynnal os bydd angen cefnogaeth ychwanegol ar unrhyw un sy’n mynychu er mwyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus.
Archebu
- Rhaid gwneud pob archeb drwy gysylltu â Datblygu’r Gweithlu Caerdydd drwy DatblygurGweithlu@caerdydd.gov.uk
- Dim ond tîm Datblygu’r Gweithlu all wneud newidiadau, cysylltwch ag aelod o’r tîm os oes angen cymorth arnoch.
- Cofiwch y gellid gosod cyfyngiadau ar niferoedd yr archebion sydd ar gael ar gyfer pob tîm fesul cwrs.
- Bydd rhestrau wrth gefn yn cael eu cynnal ar y pwynt gwneud cais os yw’r cwrs yn llawn. Bydd Datblygu’r Gweithlu Caerdydd yn cysylltu â’r lleoliad perthnasol os a phan fydd lleoedd ar gael.
Polisi Talu/Canslo
- Rhaid talu am bob lle cyn y cynhelir y cwrs trwy daliad ffôn cerdyn debyd/credyd.
- Bydd angen i leoliadau gofal plant Awdurdod Lleol gyflwyno’u codau cost wrth archebu er mwyn prosesu taliad drwy drosglwyddiad ‘journal’. Dylai cofnodion y trafodion hyn gael eu cadw gan y lleoliad gofal plant.
- Bydd cadarnhad o’r archeb yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost a roddwyd adeg cadarnhau archeb. Caiff derbynneb ei chyflwyno hefyd gan Borthol Taliadau Capita. Dylai’r lleoliad ei chadw ar gyfer cofnodion ariannol.
- Caiff ad-daliadau eu rhoi dim ond os caiff lle ei ganslo o leiaf saith diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. Nid oes eithriad i’r rheol hon.
- Ar gyfer achosion o Covid 19 wedi’u cadarnhau, dim ond ar ôl derbyn cadarnhad swyddogol o ganlyniad positif ar safle adrodd Gov.UK y gwneir ad-daliad neu drosglwyddo lle.
- Gall lleoliadau amnewid yr aelodau o staff ar gyrsiau hyd at y diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau.
- Gallwch newid eich archeb i gwrs hwyrach, ar yr amod eich bod yn rhoi gwybod o leiaf saith diwrnod cyn i’r cwrs ddechrau. I newid archeb cysylltwch â thîm Datblygu’r Gweithlu.
- Ar gyfer gosodiadau Dechrau’n Deg nad ydynt yn dilyn y polisi canslo a fanylir uchod, neu lle mae achosion o beidio â mynychu gan staff gofal plant Dechrau’n Deg, yn unol â thelerau Manyleb Gwasanaeth Dechrau’n Deg codir y ffi mynychu cwrs safonol ar y lleoliad. Ni fydd eithriad i’r rheol hon.
- Os bydd Datblygu’r Gweithlu yn canslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir ad-daliad.
- Mae Datblygu’r Gweithlu a’u partneriaid hyfforddi yn cadw’r hawl i wrthod mynediad i fynychwyr cyn yr hyfforddiant lle nad yw taliad wedi dod i law.
Cod Ymddygiad i Ddysgwyr
- Nod Datblygu’r Gweithlu yw cyflwyno safonau uchel o hyfforddiant o ansawdd a fydd yn arwain, ysbrydoli a chefnogi holl gyfranogwyr y cwrs.
- Ein nod yw creu awyrgylch o frwdfrydedd a chyd-gefnogaeth a pharch rhwng staff y ganolfan, hyfforddwyr a’r mynychwyr er mwyn gwneud y mwyaf o brofiadau a chanlyniadau dysgu’r unigolyn i’r eithaf.
- Anogir pob hyfforddwr a dysgwr i wrando ar safbwyntiau ei gilydd ac ystyried safbwyntiau ei gilydd. Cofiwch fod yr hyfforddwyr yn arbenigwyr yn eu maes penodol ac felly gofynnwn i chi barchu hyn. Fodd bynnag, mae eich barn a’ch profiadau yn bwysig ac anogir cyfranogiad cadarnhaol.
- Gofynnwn hefyd i chi wneud eich hun yn ymwybodol o iechyd a diogelwch, trwy fod yn ymwybodol o gyfleusterau ac o weithdrefnau brys.
- Gofynnwn am gydweithrediad yr holl gyfranogwyr i gadw at ein Cod Ymddygiad er mwyn sicrhau bod y digwyddiad hyfforddi’n cael ei gynnal yn llwyddiannus o fewn amgylchedd saff a diogel. Gall methu â chadw at hyn arwain at waharddiad o gyrsiau hyfforddi yn y dyfodol.
- Llenwch ein ffurflenni gwerthuso cwrs ar ddiwedd y sesiwn hyfforddi. Rydym yn croesawu unrhyw adborth sydd gennych i’n galluogi i ddatblygu a gwella ein gwasanaeth ymhellach.
- Siaradwch â’r hyfforddwr os ydych yn teimlo y gallech elwa o gymorth sgiliau hanfodol. Bydd yr hyfforddwr yn trafod pob opsiwn cymorth sydd ar gael i chi mewn modd cyfrinachol.
Peidiwch â defnyddio eich ffonau symudol yn ystod yr hyfforddiant. Os ydych chi’n disgwyl galwad frys, dwedwch wrth yr hyfforddwr ar ddechrau’r sesiwn.
Cynllunydd Hyfforddiant Datblygu’r Gweithlu Caerdydd Medi 2024 – Mawrth 2025
Ar gyfer cadw lle a phob ymholiad arall anfonwch e-bost atom yn datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Please include staff names, email addresses and the courses you wish to book staff on to so we can check if we have availability and add users to our booking sheets. Please also include a telephone number. Bookings will be processed in the order they arrive and an email to confirm availability will be sent to the email address provided.
Cyfreithiol a Rheoliadol
Crynodeb
Mae’r cymhwyster cymorth cyntaf rheoledig hwn yn benodol i fabanod o dan 1 oed, a phlant o 1 oed hyd at ddechrau’r glasoed. Mae’n bodloni gofynion y fframwaith statudol ar gyfer Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar (CSBC) fel y’i cyhoeddwyd gan Gyfnod Sylfaen yr Adran Addysg a Sgiliau yn ymwneud â gofal plant y Blynyddoedd Cynnar.
Y gofyniad lleiaf yw o leiaf 1:10 (cymhareb oedolyn hyfforddedig: plant) sy’n meddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Lawn 12 awr gyfredol.
Dydd Sadwrn/Sul Cynhelir y cyrsiau rhwng 9.00a.m a 4.00p.m yn The Confrence Centre, Monmouth Suite.
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Sadwrn 21 a Dydd Sul 22 Medi 2024
- Dydd Sadwrn 28 a Dydd Sul 29 Medi 2024
- Dydd Sadwrn 12 a Dydd Sul 13 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 19 a Dydd Sul 20 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 9 a Dydd Sul 10 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 16 a dydd Sul 17 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 23 a Dydd Sul 24 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 30 Tachwedd a Dydd Sul 1 Rhagfyr 2024
- Dydd Sadwrn 7 a Dydd Sul 8 Rhagfyr 2024
- Dydd Sadwrn 14 a Dydd Sul 15 Rhagfyr 2024
- Dydd Sadwrn 11 a Dydd Sul 12 Ionawr 2024
- Dydd Sadwrn 18 a Dydd Sul 19 Ionawr 2025
- Dydd Sadwrn 25 a Dydd Sul 26 Ionawr 2025
- Dydd Sadwrn 1 a Dydd Sul 2 Chwefror 2025
- Dydd Sadwrn 8 a Dydd Sul 9 Chwefror 2025
- Dydd Sadwrn 15 a Dydd Sul 16 Chwefror 2025
- Dydd Sadwrn 8 a Dydd Sul 9 Mawrth 2025
- Dydd Sadwrn 22 a Dydd Sul 23 Mawrth 2025
- Dydd Sadwrn 29 a Dydd Sul 30 Mawrth 2025
Crynodeb
Rhaid i’r holl staff eraill (gan gynnwys gwirfoddolwyr neu hyfforddeion rheolaidd) sydd wedi’u cynnwys yn y cymarebau staff oedolion:plant feddu ar dystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys 6 awr gyfredol a dilys.
Dylai dechreuwyr gyflawni tystysgrif Cymorth Cyntaf Pediatrig Brys 6 awr o fewn tri mis i ddechrau gweithio.
Cynhelir Cyrsiau Sadwrn 9.00a.m a 4.00p.m yn The Confrence Centre, Monmouth Suite.
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 18 Ionawr 2025
- Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025
Crynodeb
Mae’r cymhwyster rheoledig hwn wedi’i gynllunio i ddarparu’r wybodaeth a’r sgiliau sylfaenol hanfodol i weithio yn y diwydiant bwyd.
Mae’n cydymffurfio’n llawn â safonau diwydiant a rheoleiddio. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd o’r farn bod y pynciau a drafodir yn bwysig er mwyn cynnal arferion da wrth gynhyrchu a thrin bwyd diogel.
Bydd y cwrs yn addas i ystod amrywiol o ddysgwyr gan gynnwys oedolion, ysgolion, grwpiau cymunedol a busnesau ac ati sy’n gweithio yn y diwydiant arlwyo neu’n bwriadu gweithio ynddo, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â storio, paratoi, coginio a thrin bwyd.
Erbyn diwedd y cwrs bydd gan y cynrychiolwyr ddealltwriaeth glir o bwysigrwydd sicrhau hylendid bwyd priodol yn y gweithle.
Cynhelir Cyrsiau Sadwrn 9.00a.m a 4.00p.m yn The Confrence Centre, Monmouth Suite.
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024
- Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025
- Dydd Sadwrn 1 Chwefror 2025
- Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2025
Crynodeb
Mae’r cwrs achrededig hwn ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf brys sydd wedi’u henwebu, mewn gweithleoedd sydd â risgiau iechyd a diogelwch is. Mae’r hyfforddiant yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau ar gyfer delio gydag argyfyngau cymorth cyntaf sy’n effeithio ar oedolion yn y gweithle e.e. eich cydweithwyr gwaith neu’ch rhieni ar y safle.
Cynhelir Cyrsiau Sadwrn 9.00a.m a 4.00p.m yn The Confrence Centre, Monmouth Suite.
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2025
- Dydd Sadwrn 1 Mawrth 2025
Crynodeb
Datblygwyd y cymhwyster L2 rheoledig hwn i ddarparu cyflwyniad i hanfodion Iechyd a Diogelwch yn y gweithle.
Cynhelir Cyrsiau Sadwrn 9.00a.m a 4.00p.m yn The Confrence Centre, Monmouth Suite.
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Sadwrn 26 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2024
- Dydd Sadwrn 8 Mawrth 2025
Crynodeb
Datblygwyd y cymhwyster L2 rheoledig hwn i alluogi ymgeiswyr i fodloni’r rheoliadau ar gyfer marsialiaid tân mewn gweithle.
Cynhelir Cyrsiau Sadwrn 9.00a.m a 4.00p.m yn The Confrence Centre, Monmouth Suite.
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Sadwrn 12 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 8 Chwefror 2025
Mae cyrsiau Ymwybyddiaeth Diogelu Grŵp A (Lefel 1) yn darparu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddiogelu plant. Mae’n disgrifio’r mathau cyffredin o gamdriniaeth, sut i’w hadnabod, a sut i ymateb i bryderon. Mae hefyd yn esbonio sut i adrodd am bryderon yn gywir. Dylai’r hyfforddiant gorfodol hwn fod yn rhan o sesiwn sefydlu gweithwyr ar gyfer yr holl staff.
Gellir cwblhau’r hyfforddiant hwn ar-lein yn https://socialcare.wales/learning-modules/group-a-safeguarding
Crynodeb
Sylwer: Disgwylir i’r holl gyfranogwyr eisoes wybod popeth yng Ngrŵp A Ar gyfer cyrsiau ar-lein; Bydd disgwyl i chi gael eich camera ymlaen bob amser a gallu defnyddio’ch meicroffon – os nad yw hyn yn bosibl, ni fyddwch yn gallu mynychu’r cwrs.
Nod: Nod y cwrs lefel ganolradd undydd hwn yw sicrhau bod cyfranogwyr yn gwybod beth i chwilio amdano a bod ganddynt wybodaeth glir am y broses adrodd a’u cyfrifoldebau eu hunain. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar eich rôl a’ch cyfrifoldebau o ran diogelu, adnabod risg, gweithio mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y plentyn, a chanllawiau ymarferol ar gwblhau Adroddiad / Atgyfeiriad Diogelu Plant.
Amcanion Dysgu Allweddol:
• Rwy’n rhan allweddol o’r broses ddiogelu
• Rwy’n gwybod pryd, sut a phwy i adrodd iddynt
• Byddaf yn sicrhau bod llais y plentyn yn cael ei glywed.
I gael rhestr lawn o’r holl ddeilliannau dysgu ewch i: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol/safonau-diogelu-grwp-b
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
- Dydd Mawrth 17 a Dydd Mawrth 24 Medi 2024
- Dydd Mawrth 19 a Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2024
- Dydd Mercher 4 a Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024
- Dydd Mercher 12 a Dydd Mercher 19 Mawrth 2025
Crynodeb
Sylwer: Disgwylir i’r holl gyfranogwyr wybod popeth yng Ngrwpiau A a B eisoes.
Nod: Nod y cwrs lefel uwch 2 ddiwrnod hwn yw sicrhau bod cyfranogwyr yn gallu gwneud penderfyniadau a chynghori eraill ar gadw plant yn ddiogel, a rhoi prosesau amddiffyn ar waith, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd Strategaeth, Ymholiadau A47, a Chynadleddau Amddiffyn Plant.
Amcanion Dysgu Allweddol:
• Rwy’n deall bod rhoi llais a rheolaeth i bobl yn rhan hanfodol o wneud penderfyniadau – ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
• Rwy’n deall rolau a chyfrifoldebau pawb yn y broses ddiogelu
• Mae gennyf y gallu i wneud penderfyniadau clir a chymesur.
I gael rhestr lawn o’r holl ddeilliannau dysgu ewch i: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau-canllawiau/diogelu-rhestr/safonau-hyfforddiant-dysgu-a-datblygu-cenedlaethol/safonau-diogelu-grwp-c
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Datblygiad Proffesiynol Parhaus
Crynodeb
Bydd hon yn un archeb gyda 4 sesiwn gan fod disgwyl i’r rhai sy’n cymryd rhan fynychu’r pedair.
Fe’ch gwahoddir i fynychu pedair sesiwn hyfforddiant ar-lein AM DDIM drwy Microsoft Teams er mwyn gwella sgiliau ymarferwyr mewn lleoliadau’r blynyddoedd cynnar. Bydd y ffocws yn cynnwys; deall egwyddorion ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cynhwysiant i bawb, cydweithio a’r broses anghenion dysgu ychwanegol ar gyfer plant yn y blynyddoedd cynnar (genedigaeth-5 oed) sydd wedi ei nodi yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a Chod ADY Cymru.
Hyfforddiant ar-lein
9.30am – 12.00pm
- Dydd Sadwrn 14 Medi 2024
- Dydd Sadwrn 5 Hydref 2024
- Dydd Sadwrn 23 Tachwedd 2024
- Dydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2024
- Dydd Sadwrn 25 Ionawr 2025
- Dydd Sadwrn 15 Chwefror 2025
- Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2025
- Dydd Sadwrn 5 Ebrill 2025
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i uwchsgilio ymarferwyr drwy bwysleisio’r pwysigrwydd o ddefnyddio strategaethau gweledol. Bydd y gweithdy’n edrych ar yr amryw dechnegau sy’n gysylltiedig â strategaethau gweledol, y manteision o ddefnyddio strategaethau gweledol a’u heffaith ar bob plentyn.
Cynhelir Cyrsiau Dydd Sadwrn 21 Medi 2024 – 9.30a.m a 11.00a.m yn Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i wella sgiliau ymarferwyr i ddeall pwysigrwydd datblygu chwarae mewn plant yn y blynyddoedd cynnar. Bydd y cyfranogwr yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o:
• Mae ‘Beth yw chwarae?’ a’mae chwarae pam mae’n bwysig?’.
• Camau nodweddiadol datblygu chwarae.
• Camau datblygiadol nodweddiadol lefelau sylw.
• Amrywiaeth o weithgareddau a strategaethau gweledol i gefnogi plant y Blynyddoedd Cynnar i chwarae
Dydd Sadwrn 28 Medi 2024 – 9.30am-12.00pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Bwriad y gweithdy hwn yw gwella sgiliau ymarferwyr i ddeall y gwahanol sgiliau sy’n ymwneud â phlant ifanc i ddatblygu eu sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol. Bydd hefyd yn rhannu rhai o’r anawsterau y gallai plant ag anawsterau cyfathrebu cymdeithasol eu cael ac yn archwilio amrywiaeth o weithgareddau a strategaethau i gefnogi plant ag anawsterau Cyfathrebu Cymdeithasol yn y lleoliad.
Dydd Sadwrn 19 Hydref 2024 – 9.30am-12.00pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Rhaglen gyfathrebu weledol yw Makaton sy’n cyfuno arwyddion a symbolau. Bydd ymgymryd â hyfforddiant Makaton yn galluogi ymarferwyr i gefnogi iaith a chyfathrebu’r plant yn y lleoliad Blynyddoedd Cynnar drwy eu darpariaeth sydd ar gael fel rheol.
Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024 – 9.30am-12.00pm
Dydd Sadwrn 8 Chwefror 2025 – 9.30am-12.00pm
Canolfan Blant Trelái a Chaerau
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â’r theori y dylai pob aelod o staff wybod, wrth symud a chodi a chario plant bach, y dylent gadw eu hunain a’r plentyn yn ddiogel. Bydd y cwrs hefyd yn cynnwys strategaethau a gweithgareddau ymarferol. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor ar gyfer plant unigol. Mae’r cwrs hwn yn dilyn y Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan.
SYLWER: Mae hwn ar gyfer plant NA allant symud eu hunain oherwydd anabledd corfforol. NID codi a chario cadarnhaol lle mae’r plentyn yn dewis peidio â symud mohono.
Dydd Sadwrn 9 Tachwedd 2024
Dydd Sadwrn 18 Ionawr 2025
Canolfan Blant Trelái a Chaerau
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae brathu yn ymddygiad cyffredin iawn ac mae’n rhan o’r broses arferol o ddatblygiad plant wrth i blant ddysgu cyfathrebu, archwilio eu byd o’u cwmpas a darganfod sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill. Gall y rhan fwyaf o blant dan bump oed fynd drwy gyfnod o frathu y maent yn rhoi’r gorau iddo yn y pen draw. Dylai ymarferwyr sy’n gweithio neu’n cefnogi plant yn y grŵp oedran hwn fod yn barod i blant ymddwyn mewn ffordd sy’n cynnwys brathu. Er ei fod yn peri gofid mawr i rieni, ymarferwyr, y plentyn sy’n brathu, a’r plentyn a gafodd ei frathu, mae’n bwysig deall pam y gallai fod wedi digwydd er mwyn i ymarferwyr lunio ymateb effeithiol.
Dydd Sadwrn 30 Tachwedd 2024 – 9.30am-11.00am
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae hon yn sesiwn ymarferol lle bydd ymarferwyr yn gallu archwilio syniadau gwahanol ar gyfer ysgrifennu a chyflwyno straeon synhwyraidd i blant yn eu lleoliadau. Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o ran:
Beth yw stori synhwyraidd?
Ar gyfer pwy mae’r rhain?
Sut i baratoi ac ysgrifennu stori synhwyraidd.
Cymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol.
Awgrymiadau ymarferol a chyngor ar gyflwyno stori synhwyraidd yn eich lleoliad.
Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025 – 9.30am-12.00pm
Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae’r gweithdy hwn wedi’i gynllunio i uwchsgilio ymarferwyr i ddeall camau datblygiadol sgiliau echddygol manwl a bras ac archwilio sut y gellir eu datblygu mewn lleoliad Blynyddoedd Cynnar.
Bydd y cyfranogwr yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth o ran:
- Darganfod – ‘Beth yw sgiliau echddygol manwl a bras?’ a ‘pham maent yn bwysig?’
- Cael dealltwriaeth o ddatblygiad sgiliau echddygol manwl a bras
- Trafod sut rydym yn nodi plant sydd ag oedi echddygol manwl a bras
- Gadael gyda syniadau cynhwysol / ymarferol
- Rhannu arfer da
Dydd Sadwrn 22 Mawrth 2025 – 9.15am-12.00pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Mae cymorth ar gael i leoliadau gofal plant wella sgiliau Cymraeg eu gweithlu drwy’r rhaglen ‘Cymraeg Gwaith’ a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r rhaglen yn cynnwys pum llinyn, ac mae un ohonynt yn ymwneud yn benodol â sector y Blynyddoedd Cynnar: ‘Cymraeg Cynnar’.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0300 323 4324 neu e-bostiwch office@learnwelsh.cymru neu ewch i http://learnwelsh.cymru/cymraeg-gwaith-work-welsh
Crynodeb
Bydd hyn yn dangos sut i gofrestru eich diddordeb ar y porth, eich hysbysu am adnoddau Cwlwm am ddim i gefnogi eich dysgu a’ch helpu i ymgorffori’r Gymraeg ar waith bob dydd. Nod y cwrs yw rhoi:
• Tua 20 awr o ddysgu annibynnol
• Cefnogaeth i ddysgu Cymraeg i’w defnyddio gyda phlant mewn lleoliadau;
• Unedau i ddysgu ynganu’r wyddor, lliwiau, dyddiau’r wythnos a rhifau;
• Dysgu gorchmynion a chyflwyno arddodiaid.
Dydd Lau 6 Chwefor 2024 – 6.30pm – 7.30pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae’r hyfforddiant hwn ar gyfer dechreuwyr sy’n awyddus i ddechrau defnyddio lefel sylfaenol o’r Gymraeg yn ystod gweithgareddau dyddiol heb deimlo dan bwysau!
Erbyn diwedd y sesiwn ymarferol a diddorol hon byddwch yn cael cyfle i:
• Ystyried manteision posibl cefnogi dwyieithrwydd
• Datblygu dealltwriaeth o sut i gynnwys elfennau o ddwyieithrwydd wrth gynllunio drwy archwilio rhannau rhydd ac adnoddau go iawn
• Mwynhau cyfleoedd i ymarfer dweud geiriau Cymraeg syml a sut i’w defnyddio drwy gydol gweithgareddau dyddiol
• Mwynhau cyfleoedd ymarferol i ddod yn gyfarwydd â detholiad o ganeuon, rhigymau a storïau Cymraeg
• Datblygu ymwybyddiaeth bod iaith yn cael ei ‘hamsugno nid ei haddysgu’ ac ystyried sut mae hyn yn effeithio ar ymarfer o ansawdd
• Trafod sut i hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg yn eich lleoliad gyda phlant, staff, rhieni, ymwelwyr ac ati
• Derbyn dolenni i adnoddau a fydd yn cefnogi datblygiad Cymraeg o fewn eich lleoliad
• Mwynhau amser myfyrio a chael cefnogaeth gyda’r ffordd ymlaen
Dydd Sadwrn 19 Hydref 2024 – 9.30am-3.00pm
Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Mae’r gweithdy untro 2 awr hwn yn cael ei argymell yn fawr i unrhyw un a gwblhaodd y cwrs bwyd a maeth achrededig Agored Cymru 18 mis yn ôl neu fwy. Mae’n gyfle amhrisiadwy i loywi eich gwybodaeth a’ch sgiliau mewn maeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am adnoddau a mentrau bwyd a maeth diweddar.
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2024 – 6.30pm-8.30pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Nod y cwrs achrededig hwn yw rhoi gwybodaeth gyfredol a chywir am fwyd a maeth ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, wedi’i gynnal gan ddeietegtdd cymwys. Mae’r cwrs hwn yn cysylltu â’r Wobr Byrbrydau Iach Safon Aur a byddai’n gwneud lleoliadau’n gymwys ar gyfer lefel PLWS y wobr byrbrydau.
Dydd Mercher 30 Medi, 7, 14, 21 Hydref, 4, 11 Tachwedd 2024 – 6.00pm-8.00pm
Canolfan Blant Dewi Sant
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Bydd y sesiwn yn cyflwyno syniadau i’r cyfranogwyr ynghylch defnyddio dulliau ymlyniad a pherthnasoedd, yn ogystal â strategaethau rheoli ymddygiad mwy traddodiadol, fel ffordd o hybu ymddygiadau cadarnhaol.
Dydd Sadwrn 28 Medi 2024 – 9.15am-1.15pm Y Ganolfan Gynadledda, Swît Aberhonddu
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Hyfforddiant ar-lein
Dydd Sadwrn 15 Chwefror 2025 – 9.15am-1.15pm
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Bydd cyfranogwyr yn dysgu:
• Gwahanol sgiliau lleferydd ac iaith
• Adolygu normau datblygiad o enedigaeth i 5 oed
• Theori caffael iaith
• Sgiliau sylfaen ar gyfer datblygu lleferydd ac iaith
• Pryd i boeni am ddatblygiad plentyn
• Rôl yr ymarferydd wrth ddatblygu sgiliau rhyngweithio ac iaith plant, gan gynnwys strategaethau penodol i’w gweithredu a Chynllun Gweithredu
• Sut i ymgysylltu â phlant sy’n anodd eu cyrraedd
• Rôl y Gweithwyr Blynyddoedd Cynnar Proffesiynol a’r UDA a phwysigrwydd cysylltu o safbwynt plant ag angen sydd wedi ei nodi
Dydd Mercher 6 a Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024 – 6.00pm-9.00pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Gweithdai i Godi Ymwybyddiaeth o ‘Prevent’ yw WRAP. Mae Prevent yn rhan o strategaeth wrth-derfysgaeth Llywodraeth y DU, sy’n atal pobl rhag dod yn rhan o derfysgaeth.
Dydd Llun 18 Tachwedd 2024 – 6.30pm-8.00pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Caerdydd yw’r ddinas gyntaf yng Nghymru i gymryd rhan ym menter UNICEF UK, Dinasoedd a Chymunedau sy’n Dda i Blant. Rydyn ni eisiau sicrhau bod Caerdydd yn ddinas sydd â phlant a phobl ifanc wrth ei chalon, lle mae hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu parchu gan bawb ac yn lle gwych i gael eich magu.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’n hanfodol deall a bod yn wybodus am Hawliau Plant mewn unrhyw rôl lle yr effeithir ar blant yn uniongyrchol a/neu’n anuniongyrchol.
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant cyflwyniad i hawliau plant hwn, bydd cyfranogwyr:
• Yn meddu ar ddealltwriaeth a gwybodaeth dda am hawliau dynol plant yn fyd-eang ac o fewn cyd-destun Cymru
• Yn deall ystyr ac egwyddorion meddylfryd sy’n seiliedig ar hawliau plant
• Wedi archwilio sut mae cymhwyso dull sy’n seiliedig ar hawliau plant yn ymarferol yn eich gwaith gyda/i blant a phobl ifanc
Dydd Mercher 15 Ionawr 2025 – 6.00pm-8.30pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Crynodeb
Nod y ddwy sesiwn hyfforddi 90 munud hyn yw cefnogi arweinwyr a rheolwyr i gefnogi timau staff yn eu taith wrth-hiliol i greu dull gwrth-hiliol o arfer gorau yn y Blynyddoedd Cynnar.
Ar ôl cwblhau’r ddwy weminar bydd arweinwyr / rheolwyr yn cael yr offer a’r adnoddau i:
• Ddeall effaith gadarnhaol ymarfer gwrth-hiliol i bob plentyn yn y Blynyddoedd Cynnar
• Dechrau deall pam mae angen ymgorffori ymarfer gwrth-hiliol yn y blynyddoedd cynnar
• Cychwyn ar y daith tuag at ddod yn lleoliadau ac yn ymarferwyr gwrth-hiliol
Dydd Iau 16 a Dydd Iau 23 Ionawr 2025 – 6.30pm-8.30pm
Hyfforddiant ar-lein
Nid oes cost ar gyfer y cwrs hwn
Cyrsiau lles
Synopsis
Focussing on your own wellbeing, this course will look at different types of stress in working in childcare and what resilience is, and then help you build a practical action plan to increase your resilience to those stresses and look after your own wellbeing.
Saturday 23rd November 2024 – 9.30am – 1.00pm at New Pathways
There is no cost for this course.
Synopsis
This course, aimed at managers, deputy managers and wellbeing leads in childcare settings, looks at how you can ensure the wellbeing of your staff and further support them in building their resilience.
*It is best if you and your staff have attended the full day Building Well-being & Resilience at work session prior.
Saturday 11th January 2025 – 9.30am-1.00pm at New Pathways
There is no cost for this course.
Synopsis
ACES are Adverse Childhood Experiences which may refer to traumatic events or adverse conditions that children may experience during their upbringing. This session will look at what a trauma informed approach in childcare means and how you can implement it in your individual setting in practical ways.
Saturday 14th December 2024 – 9.30am-4.30pm at The Conference Centre Brecon Suite
There is no cost for this course.