Mathau o ofal plant

Gall lleoliad gofal plant fod yn:

  • un cofrestredig, a
  • heb ei gofrestru.

Rhaid i leoliadau gofal plant dan 12 oed gael eu cofrestru a’u harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) os yw’n gweithredu am fwy na:

  • 2 awr y diwrnod, neu
  • 5 diwrnod y flwyddyn.

Gall lleoliadau heb eu cofrestru sy’n gweithredu lai na 2 awr y dydd, neu lai na 5 diwrnod y flwyddyn, fod o ansawdd uchel o hyd ond nid ydynt yn cael eu harchwilio.

Efallai na fyddwch yn gymwys i gael cymorth i dalu eich costau gofal plant os ydych yn defnyddio lleoliad heb ei gofrestru.

Buddion lleoliad cofrestredig

Mae lleoliad cofrestredig:

  • yn sicrhau bod plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel, saff a phriodol.
  • yn gallu bod yn fwy fforddiadwy oherwydd efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda’r costau.
  • â staff sydd wedi eu gwirio, eu cymhwyso a’u hyfforddi’n briodol i gefnogi a gofalu am eich plentyn.
  • â chymarebau oedolion i blant sy’n sicrhau bod digon o staff i ofalu am nifer ac oedran y plant yn y lleoliad.
  • â pholisïau, gweithdrefnau ac yswiriant ar waith i sicrhau bod staff a phlant yn derbyn gofal a’u bod yn ddiogel.
  • yn cael eu harolygu gan arolygwyr AGC. Gallwch gyrchu adroddiadau’r lleoliadau sydd efallai o ddiddordeb i chi. Gall y lleoliadau hefyd roi copi o’u hadroddiad arolygu i chi.

Gwahanol fathau o leoliadau

Mae gwahanol fathau o leoliadau, sy’n amrywio yn ôl:

  • oed y plant y maent yn gofalu amdanynt,
  • y math o adeilad y maent yn gweithredu ohono,
  • pa bryd maent ar agor, a’r
  • iaith/ieithoedd y maent yn eu defnyddio (Cymraeg neu Saesneg).

Efallai eich bod eisoes yn gwybod, neu o leiaf bod gennych ryw syniad o’r math o ofal plant rydych ei eisiau ar gyfer eich plentyn, neu efallai y byddwch am wybod am yr holl ofal plant sydd ar gael yn eich ardal.

Mae gwarchodwr plant yn darparu gofal plant o’u cartref.

Oed y plant

0 – 12

Oriau agor a sesiynau

Mae gwarchodwyr plant fel arfer yn hyblyg, ond mae hyn yn dibynnu ar y galw.  Gallant gynnig:

  • gofal cyn ysgol (brecwast),
  • gofal cofleidiol ar gyfer addysg ran-amser yn y blynyddoedd cynnar,
  • diwrnodau llawn neu ran o’r diwrnod ar gyfer plant cyn oed ysgol, a
  • gofal gwyliau diwrnod llawn.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Mae meithrinfa gofal dydd llawn yn tueddu i ddarparu gofal plant o adeilad pwrpasol.

Oed y plant

0 – 12.

Mae llawer o feithrinfeydd yn darparu:

  • sesiynau grŵp chwarae i blant 2 – 3 oed,
  • gofal cofleidiol i blant 3 – 4 oed.

Oriau agor a sesiynau

Mae meithrinfeydd gofal dydd llawn fel arfer ar agor drwy’r dydd, o 7am – 6pm. Gallant ddarparu gofal dydd llawn a gofal hanner diwrnod.

Mae llawer o feithrinfeydd yn darparu:

  • Sesiynau grŵp chwarae i blant 2 – 3 oed,
  • gofal cofleidiol i blant 3 – 4 oed.

Ar gyfer plant oed ysgol, mae rhai meithrinfeydd yn darparu:

  • gofal cyn ysgol (brecwast) o 7am – 9am,
  • gofal ar ôl ysgol rhwng 3pm/3:30pm – 6pm, a
  • gofal gwyliau diwrnod llawn.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Gall grwpiau chwarae ddarparu gofal ar safleoedd ysgol, ond mae llawer yn darparu gofal o safle a rennir.  Er enghraifft, mewn neuadd eglwys neu gwt Sgowtiaid.

Oed y plant

Maent yn cynnig:

  • sesiynau cyn-ysgol i blant 2 – 3 oed, a
  • gofal cofleidiol i blant 3 – 4 oed mewn addysg ran-amser yn y blynyddoedd cynnar.

Oriau agor a sesiynau

Maent yn cynnig:

  • 1 sesiwn fer y dydd. Er enghraifft, 9am i 11:30am, neu
  • 2 sesiwn gyda seibiant rhyngddynt.

Os yw darparwr cylch chwarae wedi’i gofrestru fel gofal dydd llawn a bod plant yn croesi drosodd amser cinio, nid yw plant yn aros am fwy nag 1 sesiwn y dydd.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Gall Cylch Meithrin ddarparu gofal ar safleoedd ysgolion, ond mae llawer yn darparu gofal o safle a rennir.  Er enghraifft, mewn neuadd eglwys neu gwt Sgowtiaid.

Oed y plant

Maent yn cynnig:

  • sesiynau cyn-ysgol i blant 2 – 3 oed, a
  • gofal cofleidiol i blant 3 – 4 oed mewn addysg ran-amser yn y blynyddoedd cynnar.

Oriau agor a sesiynau

Maent yn cynnig:

  • 1 sesiwn fer y dydd. Er enghraifft, 9am i 11:30am, neu
  • 2 sesiwn gyda seibiant rhyngddynt.

Os yw darparwr cylch chwarae wedi’i gofrestru fel gofal dydd llawn a bod plant yn croesi drosodd amser cinio, nid yw plant yn aros am fwy nag 1 sesiwn y dydd.

Ieithoedd

Cymraeg.

Darperir gofal y tu allan i’r ysgol yn bennaf ar safleoedd ysgolion.  Weithiau darperir y gofal mewn meithrinfa gofal dydd llawn.

Oed y plant

Plant 4 i 12 oed sy’n mynychu’r ysgol yn llawn amser (o’r dosbarth derbyn ymlaen).

Oriau agor a sesiynau

Maent yn darparu gofal ar ôl ysgol o 3pm/3:30pm i 6pm.

Mae rhai yn darparu gofal cyn ysgol (brecwast).

Mae rhai ysgolion cynradd yn cynnig brecwast am ddim i blant cyn dechrau’r diwrnod ysgol, ond nid gofal plant cofrestredig gan AGC yw hwn.

Mae rhai lleoliadau’n darparu gofal gwyliau.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Mae nanis yn darparu gofal yng nghartref y rhiant neu ofalwr. Fel arfer, nid yw nanis wedi’u cofrestru gan AGC, ond gallant ymuno â  Chynllun Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant yn y Cartref (Cymru) 2021. Mae hyn yn eich galluogi i gael cymorth ariannol gyda chostau gofal plant.

Oed y plant

Fel arfer plant ifanc ond gall gynnwys plant oedran ysgol hefyd.

Oriau agor a sesiynau

Bydd nanis yn gweithio pan fydd eu hangen arnoch.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Gall Creche ddarparu gofal plant dros dro i chi fynychu digwyddiadau penodol, fel:

  • hyfforddiant,
  • dysgu, neu
  • ddosbarth ymarfer

Darperir creche fel y gellir gofalu am blant tra byddwch yn gwneud rhywbeth arall ar yr un safle.

Oed y plant

Plant ifanc fel arfer yn cynnwys plant oedran ysgol hefyd.

Oriau agor a sesiynau

Maent yn rhedeg ochr yn ochr â’r digwyddiad rydych chi’n ei fynychu.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Mae chwarae mynediad agored wedi’u cofrestru gyda AGC, ond mae plant yn rhydd i adael pryd bynnag y dymunant. Nid oes rhaid iddynt gael eu gollwng a’u casglu gan riant neu ofalwr.

Oed y plant

4 ac uwch (dosbarth derbyn ymlaen).

Oriau agor a sesiynau

Fel arfer yn ystod gwyliau’r ysgol yn unig.

Ieithoedd

Cymraeg, Saesneg, dwyieithog.

Mae llawer o ddarpariaethau eraill ar gael, ond gan fod angen i’r rhiant neu’r gofalwr aros gyda’r plentyn a pharhau yn gyfrifol amdano, ni ellir eu hystyried yn ofal plant. Er enghraifft:

  • aros a chwarae
  • grwpiau rhieni a phlant bach, a
  • Ti a Fi.

Mae llawer o ysgolion yn cynnig clybiau gweithgareddau ar ôl ysgol, fel:

  • pêl-droed,
  • Ffrangeg, a
  • chodio .

Mae pob un o’r rhain fel arfer yn gweithredu unwaith yr wythnos yn unig.  Efallai y bydd eich plentyn yn mynychu’r gweithgareddau hyn, ond nid yw’n cael ei ystyried yn ofal plant.

Pethau i’w hystyried wrth ddewis gofal plant

Mae angen i chi feddwl beth yw’r pethau pwysicaf i chi a’ch plentyn wrth ddewis lleoliad gofal plant.

Math o leoliad

Mae angen i chi benderfynu a fyddai’n well gan eich plentyn leoliad grŵp, neu warchodwr plant o’u cartref eu hunain. Mae angen i chi ystyried a oes angen mynd â’ch plentyn i’r ysgol, neu ei gasglu oddi yno.

Amser

Bydd angen i chi sicrhau bod y lleoliad yn gallu cwmpasu eich holl oriau gwaith.

Lleoliad

Efallai y bydd angen lleoliad arnoch sy’n agos at ysgol eich plentyn, eich cartref neu’ch gweithle.

Iaith

Mae angen i chi benderfynu a fyddai’n well gennych i’ch plentyn fynychu lleoliad Cymraeg neu Saesneg.  Gallwch ddysgu am fanteision bod yn ddwyieithog yma.

Cost

Gall gofal plant fod yn ddrud ond efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda’r costau, yn dibynnu ar y math o leoliad rydych chi’n ei ddewis.

Argaeledd

Bydd angen i chi ddod o hyd i leoliad gofal plant sydd â lle i’ch plentyn, ar gyfer y cyfnodau sydd eu hangen arnoch.

Mwy o wybodaeth i’ch helpu i ddod o hyd i ofal plant

Mae sawl ffynhonnell o wybodaeth am leoliadau gofal plant lleol yr ydym yn awgrymu eich bod yn edrych arnynt cyn gwneud eich dewis.  Mae’r ffynonellau hyn yn cynnwys:

Mae hon yn gronfa ddata genedlaethol ar gyfer rhieni a gweithwyr proffesiynol.

Mae’n cadw’r wybodaeth gyfredol am leoliadau gofal plant sydd wedi rhoi caniatâd i’w cofnod fod ar gael i’r cyhoedd.

Efallai na fydd gan rai lleoliadau gofnod gweladwy oherwydd:

  • Nid oes cofnod ar-lein ganddynt,
  • nid yw’r cofnod wedi’i ddiweddaru, neu
  • nid ydynt wedi rhoi caniatâd i’w cofnod fod ar gael i’r cyhoedd.

Gallwch ymweld â gwefan Gwybodaeth Gofal Plant Cymru.  

Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i blant a phobl ifanc 0 i 25 oed ag anableddau neu anghenion ychwanegol, gallwch gofrestru i dderbyn y Mynegai i gael y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau a gweithgareddau.

Mae nifer o wefannau masnachol sy’n dal rhestrau o leoliadau gofal plant.  Mae rhai yn hysbysebu ar Facebook a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill.  Efallai y byddwch hefyd eisiau siarad â rhieni a gofalwyr eraill am eu profiadau o leoliadau gofal plant.  Gallwch gysylltu â rhieni a gofalwyr eraill trwy ddefnyddio llwyfannau ar-lein a thrwy rwydweithiau lleol eraill.

Rydym bob amser yn argymell eich bod yn gwirio bod y wybodaeth yn gywir ac yn gyfredol.