Help gyda chostau gofal plant
Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y byddwch yn gymwys i gael help gyda chostau gofal plant. Ond, gall fod yn anodd gweithio allan pa gymorth y gallech efallai ei gael.
Mae dau fath o gymorth:
- helpu tuag at gostau rydych yn talu amdanynt, a
- lleoliadau gofal plant wedi’u hariannu.
Cymorth tuag at gostau rydych yn talu amdanynt
Gallwch ddefnyddio’r wefan Dewisiadau Gofal Plant i’ch helpu i ddod o hyd i’r cynnig iawn i chi. Bydd yn dweud wrthych os ydych yn gymwys i gael:
Efallai y byddwch yn gymwys i gael Gofal Plant Rhydd o Dreth os ydych yn deulu sy’n gweithio, a bod pob rhiant neu ofalwr yn ennill dros £183.04 yr wythnos ond llai na £100,000 y flwyddyn. Gallech gael hyd at £2,000 y plentyn y flwyddyn.
Os ydych chi’n rhiant sengl neu’n ofalwr, mae’r un meini prawf yn berthnasol.
Bydd angen i’r lleoliad gofal plant fod wedi ei gofrestru.
Ni allwch hawlio Gofal Plant Rhydd o Dreth os ydych eisoes yn hawlio:
- credydau treth,
- Credyd Cynhwysol, neu
- dalebau gofal plant
Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gymwys os oes un rhiant yn gweithio, a’r llall yn hawlio budd-daliadau penodol, fel:
- budd-dal analluogrwydd,
- lwfans anabledd difrifol, neu
- lwfans gofalwr.
Dysgwch fwy am Ofal Plant Rhydd o Dreth.
Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant os ydych yn rhiant sy’n gweithio neu’n ofalwr ar Gredyd Cynhwysol. Gallech gael:
- hyd at £951 y mis ar gyfer 1 plentyn, neu
- hyd at £1,630 y mis ar gyfer 2 blentyn neu fwy.
Os ydych yn gymwys, efallai y gallech gael help gyda’r costau ymlaen llaw, fel ei bod yn haws talu’r set nesaf o gostau.
Os ydych yn dechrau gweithio neu’n cynyddu eich oriau gwaith, siaradwch â’ch anogwr gwaith Credyd Cynhwysol a all roi mwy o wybodaeth i chi. Mae’n rhaid i chi fod mewn gwaith cyflogedig i gael cymorth gofal plant gan Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol gyda phartner, fel arfer, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith i gael yr help hwn. Fodd bynnag, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth gofal plant os nad yw 1 ohonoch yn gweithio ac na allwch ddarparu gofal plant eich hunain oherwydd eu bod:
- â gallu cyfyngedig i weithio
- â chyfrifoldebau gofalu am berson ag anabledd difrifol, neu
- yn absennol dros dro o’r cartref.
Ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol am ofal plant os ydych eisoes yn hawlio:
- credydau treth.
- Gofal Plant Rhydd o Dreth, neu
- dalebau gofal plant
Gallwch ddarganfod mwy am Gredyd Cynhwysol ar gyfer gofal plant.
Efallai eich bod yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant Cymru (y Cynnig), os oes gennych blentyn 3 i 4 oed a bod y ddau riant neu ofalwyr mewn teulu 2 riant yn:
- gweithio ac yn ennill uwch law’r hyn sy’n cyfateb i 16 awr ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ond yn llai na £100,000 y flwyddyn, neu
- ar gwrs Addysg Uwch neu Bellach.
Efallai y byddwch hefyd yn gymwys os yw un rhiant yn bodloni’r meini prawf uchod, a bod y llall yn derbyn budd-dal cymwys, fel:
- budd-dal analluogrwydd
- lwfans anabledd difrifol, neu
- lwfans gofalwr.
Os ydych chi’n rhiant sengl neu’n ofalwr, efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn:
- gweithio ac yn ennill uwch law’r hyn sy’n cyfateb i 16 awr ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ond yn llai na £100,000 y flwyddyn, neu
- ar gwrs Addysg Uwch neu Bellach.
Bydd angen i’ch plentyn fynd i leoliad dynodedig.
Nid yw’r Cynnig yn talu costau bwyd, lluniaeth na theithio, nac unrhyw ofal plant ychwanegol.
Gallwch ddysgu mwy yma am Gynnig Gofal Plant Cymru.
Llefydd a ariennir
Nid yw Dewisiadau Gofal Plant yn talu am lefydd a ariennir.
Dechrau’n Deg yw rhaglen Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru wedi’i dargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae’r gofal plant a ariennir yn darparu 2.5 awr o ofal plant o ansawdd uchel bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos o’r flwyddyn, yn ystod tymor ysgol i blant 2-3 oed.
Mae gofal plant Dechrau’n Deg ond yn cael ei ddarparu mewn lleoliadau dynodedig. Mae’r gofal plant yn cael ei fonitro a’i gefnogi gan athrawon a llawer o weithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod y plant yn cael gofal o ansawdd uchel.
Yn dibynnu ar eich cod post, efallai y byddwch yn gymwys. Nid oes unrhyw ofynion cyflogaeth nac incwm.
Gallwch ddarganfod mwy a gwirio a ydych yn gymwys i gael Gofal Plant Dechrau’n Deg.