Cwestiynau i’w gofyn i leoliadau gofal plant

Mae llawer o gwestiynau y gallech eu gofyn cyn dewis eich lleoliad gofal plant.  Cofiwch, nid oes y fath beth â chwestiwn gwirion!

  • A yw’r safle’n lân?
  • A yw’n groesawgar ac yn gyfeillgar?
  • Oes yna awyrgylch positif?
  • A yw’n saff ac yn ddiogel?
  • Oedd yr ymarferwyr yn gwneud i chi a’ch plentyn deimlo bod croeso i chi?
  • A yw’r ymarferwyr yn angerddol ac yn frwdfrydig?
  • Allwch chi weld perthnasoedd cryf rhwng y plant a’r ymarferwyr?
  • A oes amrywiaeth o brofiadau a dewisiadau chwarae ar gyfer pob plentyn?
  • Ydy’r chwarae’n greadigol?
  • A yw plant yn gallu mynd allan a chwarae’n ddiogel fel rhan o’u diwrnod?

Mae’n bwysig bod y lleoliad yn cadw plant yn ddiogel.  Efallai y byddwch am ofyn:

  • A yw staff a gwirfoddolwyr wedi cael eu gwirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)?
  • Pwy yw eu harweinydd diogelu dynodedig (ADD) a pha hyfforddiant maen nhw wedi’i gael? Pa mor ddiweddar oedd yr hyfforddiant hwn? Mewn rhai amgylchiadau, gellir eu galw’n berson a enwir ar gyfer amddiffyn plant, swyddog amddiffyn plant, neu arweinydd diogelu.
  • Pa hyfforddiant diogelu y mae staff wedi’i gael? Pryd wnaed hyn ddiwethaf?
  • Allwch chi gael copi o’ch polisi amddiffyn plant?
  • Os oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu anabledd, pa gamau y byddant yn eu cymryd i ddiwallu anghenion eich plentyn?
  • Os oes angen help ar eich plentyn wrth ddefnyddio’r toiled, newid, bwydo, neu ei feddyginiaeth, sut y caiff y gofal personol hwn ei ddiwallu?
  • Sut maen nhw’n storio’r wybodaeth sydd ganddyn nhw am eich plentyn yn ddiogel? Pwy sydd â mynediad ato ac a ydynt yn ei roi i unrhyw un arall?

Dylai lleoliadau fod yn siarad â chi am ddiogelu fel bod pawb yn glir ac yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Mae gan y lleoliad gyfrifoldeb cyfreithiol i boeni am les y plant dan ei ofal. Ni ddylech synnu os bydd lleoliad yn gofyn i chi egluro:

  • sut y cafodd eich plentyn y cleisiau y cyrhaeddodd y lleoliad â nhw, neu
  • Pam nad yw’n ymddangos bod gan eich plentyn ddillad addas ar gyfer y tywydd.

Os oes Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anabledd gan eich plentyn, efallai y bydd mwy o bethau i’w hystyried.