Pethau i’w hystyried os oes Anghenion Dysgu Ychwanegol neu anabledd gan eich plentyn
Cyn i chi ddewis lleoliad gofal plant, mae’n bwysig eich bod yn gofyn rhai cwestiynau i’r lleoliad.
Fel rhiant neu ofalwr plentyn ag anghenion cymorth ychwanegol, mae’n gwbl ddealladwy y gallai fod gennych fwy o bethau i’w hystyried. Mae angen i chi fod yn gwbl hyderus y gallant ddiwallu anghenion eich plentyn. Byddwch yn deall pa gymorth sydd ei angen ar eich plentyn, a’r strategaethau a ddefnyddir i helpu i ofalu am eich plentyn.
Efallai y byddwch am ofyn mwy o gwestiynau, fel:
- A yw’r gofod awyr agored yn hygyrch? A yw’r llif yn rhwydd? A yw’n saff ac yn ddiogel?
- A oes ganddyn nhw fannau tawel neu synhwyraidd?
- A oes dyddiau neu amseroedd penodol pan fo’r lleoliad yn dawelach neu’n llai prysur?
- A yw plant yn cael eu rhannu’n grwpiau yn ôl oedran neu allu?
- Pa addasiadau y byddai angen iddynt eu gwneud er mwyn i’ch plentyn deimlo ei fod wedi’i gynnwys?
- Pa brofiad sydd ganddynt o weithio gyda phlant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) neu sy’n anabl?
- Pwy yw eu Cydlynydd ADY? Pa brofiad a hyfforddiant sydd ganddyn nhw?
- Ydyn nhw’n gyfarwydd â strategaethau cyffredinol, fel pethau gweledol? Er enghraifft, Goleuadau Traffig, Gwrthrychau Cyfeirio, a Nawr a Nesaf.
- Pa hyfforddiant perthnasol sydd ganddyn nhw? Er enghraifft, Makaton, Prosesu Synhwyraidd, ac Awtistiaeth Sylw.
- A fyddai angen mwy o hyfforddiant arnynt i ddiwallu anghenion eich plentyn?
- Pa gymorth maen nhw’n ei gynnig i blant ag anableddau ac ADY?
- Sut fydden nhw’n sicrhau bod eich plentyn yn cael yr un cyfleoedd chwarae a dysgu â phlant eraill?
- Sut fydden nhw’n trin anabledd eich plentyn gyda phlant, rhieni neu ofalwyr eraill os oes ganddyn nhw gwestiynau?
- Sut fyddan nhw’n cyfathrebu gyda chi am anghenion a chynnydd eich plentyn.
- Sut maen nhw’n cysuro plant sy’n cynhyrfu?
- A allwch chi gwrdd â staff eraill, ac a ydyn nhw’n rhyngweithio â’ch plentyn?
- A ydyn nhw’n gyfforddus yn ymwneud ag anabledd eich plentyn?
Bydd llawer o’r cwestiynau i leoliadau ac ymarferwyr yn dal i fod yn berthnasol, ond efallai y bydd angen i chi ofyn:
- A yw’r amgylchedd yn saff ac yn ddiogel? Er enghraifft, drysau a ffenestri diogel, dim mynediad i ffyrdd, ac ardal awyr agored gaeedig.
- A oes gan y gofalwr plant unrhyw brofiad ADY? Efallai y bydd angen adnoddau ychwanegol, offer a mannau tawel neu synhwyraidd dynodedig.
- A yw adnoddau a mannau storio personol yn anhygyrch? Er enghraifft, siediau tu fas a garejys.
- A yw’r lleoliad yn barod i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol ADY? Er enghraifft, caniatáu i arbenigwyr weld y plentyn yn y lleoliad (neu gartref i warchodwr plant) a mynychu cyfarfodydd Cynllun Gofal Personol.
Cynllun Cymorth Lleoedd
Os ydych yn rhiant sy’n gweithio i blentyn oed ysgol sydd ag anghenion cymorth ychwanegol na all fynd i leoliad gofal plant yn ddiogel heb gymorth ychwanegol, efallai y bydd cyllid ar gael i ddarparu:
- hyfforddiant,
- cyfarpar, neu
- staffio ychwanegol.
Byddai’n rhaid i’r rhiant dalu’r ffi gofal plant o hyd, ond ni fyddai costau ychwanegol. Os gallai hyn fod yn berthnasol i’ch plentyn, siaradwch â’ch darparwr gofal plant. Gallant wneud atgyfeiriad i’r Athro Arbenigol sy’n rheoli’r Cynllun Cymorth Lleoedd.