Canllaw gofal plant
Mae gofal plant yn cyfeirio at y gwasanaethau a ddarperir mewn lleoliadau, heb fod y rhiant yno. Gall lleoliad gofal plant fod yn:
- feithrinfeydd gofal dydd,
- clybiau cyn ac ar ôl ysgol,
- gofal plant gwyliau ysgol,
- grwpiau chwarae, a
- gwarchodwyr plant.
Ar wahân i ofal plant Dechrau’n Deg, mae lleoliadau gofal plant yn codi ffi.
Nid yw’r canllaw hwn yn cynnwys unrhyw weithgareddau lle mae’r rhiant neu’r gofalwr yn aros gyda’r plentyn. Er enghraifft, grwpiau rhieni a phlant bach, neu leoliadau chwarae meddal masnachol. Nid yw hefyd yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a ddarperir gan ysgolion, gweithgareddau chwaraeon a hamdden i blant a phobl ifanc, na gwasanaethau chwarae mynediad agored.
Manteision defnyddio gofal plant
Mae yna lawer o resymau pam y gallech fod am ddefnyddio gofal plant.
Ar gyfer plant
Mae gofal plant o ansawdd uchel yn cefnogi datblygiad iach plant ac yn rhoi dylanwad cadarnhaol ar ddatblygiad cymdeithasol, emosiynol a deallusol eich plentyn.
Ar gyfer rhieni a gofalwyr
Os ydych chi’n gwybod bod eich plentyn yn derbyn gofal da mewn lleoliad gofal plant, gallwch weithio neu fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi. Mae’n helpu gyda chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, a thrwy eich cefnogi i weithio, gall helpu i gynyddu incwm y teulu. Gellir defnyddio gofal plant hefyd i roi rhywfaint o seibiant i chi.
Hawl eich plentyn i chwarae
Mae hawl gan eich plentyn i chwarae, yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae chwarae yn hanfodol i:
- iechyd a llesiant,
- gwydnwch,
- hyder,
- sgiliau cymdeithasol,
- sgiliau gwybyddol,
- sgiliau echddygol a
- datblygiad eich plentyn.
Mae gofal plant yn darparu llawer o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn chwarae hunangyfeiriedig, mewn amgylchedd diogel a heriol.
Caerdydd – Dinas Sy’n Dda i Blant
Mae Caerdydd yn Ddinas UNICEF sy’n Dda i Blant – y cyntaf o’i bath yn y Deyrnas Unedig.
Mae hwn yn ddyfarniad pwysig a gydnabyddir yn rhyngwladol. Mae’n dangos y camau y mae’r Cyngor a’i bartneriaid wedi’u cymryd i hyrwyddo hawliau dynol plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd.